pethau ni welir : canys y pethau a welir sydd dros amser, ond y pethau ni welir sydd dragwyddol. . .
'Canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig." Caeodd y gweinidog y Beibl a phlethodd ei ddwylo o'i amgylch gan godi'i wyneb tua'r nef. Gwyrodd pawb yn y dorf fawr eu pennau mewn gweddi.
"Yr ydym wedi cyfarfod yma, ein Tad trugarog, i estyn ein diolch iti. Mae dagrau yn ein llygaid, ond dagrau ydynt wedi'u goleuo gan lawenydd dwys—llawenydd am inni gael y fraint a'r fendith ryfeddol o adnabod dy was y rhown yr hyn sy farwol ohono i'r pridd heddiw. Fel dyn uniawn a charedig a hoff yn ei gartref ac yn ei ardal, fel crefyddwr, fel crefftwr yn ei waith, fel arweinydd ymhlith dynion—mawr— ygwn Dy enw, O Dad, am roi inni'r anrhydedd o gwmni'r gŵr da a chyfiawn hwn. Ti yn unig, O Clywsom ei gyffelybu i'th was Moses yn arwain ei bobl drwy'r anialwch tua Chanaan. A chlywsom rai yn ein plith yn murmur yn chwerw na chafodd ef ddringo o rosydd llwyd Moab i fynydd Nebo, i ben Pisgah, ac na pheraist Ti iddo weled â'i lygaid y tir y cyrchai tuag ato. Dduw, a wêl y dyfodol a ffrwyth ei lafur ef. Ni chenfydd ein golygon ffaeledig ni tu draw i yfory a thrennydd, ond mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg Di fel doe wedi yr êl heibio ac fel gwyliadwriaeth nos. Ond gwyddom ni, a gwyddai yntau cyn ein gadael, Dad tosturiol, nad ofer ei ymdrechion dewr. 'Efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, yr hwn a rydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa.' ... Ac efe a ddwg ffrwyth lawer.'...O lafur ei enaid y gwêl.' "Dy nawdd tyner a fo tros ei weddw annwyl yn ei hunig— rwydd a'i hiraeth, O Dad, a throsom ninnau oll, y llafurwyr sydd eto'n aros ym maes yr ardal ddrylliedig hon. Rho ynom nerth i lunio, o dlodi a phryder a hagrwch y dyddiau blin, gyfoeth a hyder a phrydferthwch bywyd llawnach a helaethach nag a adnabu un ohonom erioed o'r blaen—o ymryson dang— nefedd, o drallod lawenydd, o elyniaeth gariad. Hyn fyddo'n braint ni oll yn enw Crist ein Harglwydd. Amen.' Cododd y bobl eu pennau, a chlywid llawer "Amen" yn furmur dwfn drwy'r stryd. Yna, lediodd y gweinidog yr emyn. Yr oedd tros fil yn yr angladd, a dywedid wedyn. fod y dôn i'w chlywed, ar flaen yr awel a chwythai tuag yno,