Dilynodd y ddau ef tua'r drws. O gongl ei lygad gwelodd Llew ei frawd yn rhoi'r swllt yn frysiog yn nwylo'r plentyn ieuangaf.
"Cymar di ofal heno, Dic," galwodd ei wraig ar ôl y bugail.
"Gofal?"
"Ia. Dim cwffio, cofia. Mae 'na lond Llechfaen o blismyn, ac yn y Rhinws y byddi di os codi di dwrw. Cofia di, 'rwan."
Ceisiodd y ddau fachgen edrych yn ddidaro wedi i Ddic Bugail eu rhoi ar gefn y merlyn, ond mewn gwirionedd teimlent fel dau arwr ar gychwyn i ennill y byd. Aethai Llew yn ddyn yn ystod ei drimis yn y chwarel, yn glamp o chwarelwr a fedrai sgwario'i ysgwyddau a phoeri rhwng ei ddannedd a gwneud i'w drowsus melfared wichian yn uchel pan gerddai; ond er hynny, hogyn ydoedd yn ei galon, a disgleiriai'i lygaid yn awr.
"Dal d'afael yn 'i fwng o, Gwyn," meddai, gan swnio'n ddoeth, yn "hen law" ar farchogaeth, ond gan fethu cuddio'r cyffro a ddoi i'w lais. "Mae o mor ddiniwad ag oen, wsti."
"Ydi, 'nen' Tad," cytunodd Gwyn, fel un a farchogasai filoedd o feirch anhydrin yn ei ddydd.
Arweiniodd Dic y merlyn yn araf a gofalus i lawr y llwybr tua'r ffordd fawr, ac yno neidiodd yntau i fyny tu ôl i'r ddau farchog eofn ac urddasol a âi allan yn gorchfygu ac i orchfygu. Daliai Gwyn ei ben i fyny ac edrychai'n herfeiddiol o'i flaen, ond weithiau taflai olwg ffroenuchel ar graig neu lidiart ar fin y ffordd. Cyn hir, er hynny, fe gollodd yr antur ei newydd-deb, a theimlai'r marchog dewr yn bur flinedig: gwyrai'i ben, fel petai bron â chysgu, a hiraethai Llew yntau am gyrraedd adref. Tawedog oedd y bugail hefyd, ond yn sydyn gofynnodd :
"Be' ddeudodd y wraig wrthach chi pan ddaru chi sôn am y Sowth?"
"Dim ond gofyn faint oedd hi'n gostio i fynd yno," atebodd Llew.
"'Oes 'na lawar yn dal i fynd?"
"Rargian, oes. Mae 'na drên sbesial yn gadal ddydd Mawrth nesa'. Am chwech y bora."
"Felly clywis i. 'Faint fydd arno fo?"