plismyn o bob rhan o'r sir, i amddiffyn y Bradwyr ar eu ffordd i'r chwarel ac oddi yno bob bore a hwyr, ond galwyd hwy oll allan yn awr i wylio'r orymdaith a'r cyfarfod.
"Pentra' o blismyn, myn coblyn i !" sylwodd Dic.
Cyflymodd gamau'r merlyn, gan feddwl brysio drwy'r pentref cyn i'r orymdaith gyrraedd i lawr o'r ystrydoedd uchaf i'r brif heol. Ond cryfhai'r canu a'r gweiddi bob ennyd, ac fel y nesaent at y tro i Dan-y-bryn, y stryd serth lle trigai'r ddau fachgen, gwelent bobl a phlismyn yn ymgasglu ar ei gwaelod.
"Gwell inni aros nes bydd y prosesion wedi mynd heibio," meddai'r bugail, "rhag ofn i'r merlyn 'ma ddychryn a thrio gwneud tricia'."
Tywalltodd yr orymdaith i lawr drwy geg Tan-y-bryn, ugeiniau o blant i ddechrau, pob un yn canu nerth ei ben:
"Mae'r ffordd yn rhydd i bawb,
Mae'r ffordd yn rhydd i bawb.
Hidiwch befo'r plismyn,
Mae'r ffordd yn rhydd i bawb."
Yna cerddai gwŷr ifainc yn dwyn baneri:—
BYDDWCH FFYDDLON I'CH CYDWEITHWYR
NID OES BRADWYR YN Y DORF HON
GWELL ANGAU NA CHYWILYDD—
a thu ôl iddynt hwy, yn rhesi o chwech, gannoedd o chwarelwyr penderfynol. Tramp, tramp, tramp—a beidiai sŵn y traed byth ar gerrig yr heol? A ddeuai diwedd yr orymdaith enfawr?
Neidiodd Dic Bugail oddi ar y merlyn ac arweiniodd yr anifail yn frysiog a chyffrous at waelod Tan-y- bryn.
"Hwrê, 'r hen hogia'!" gwaeddodd dro ar ôl tro, gan gyfarch rhai a adwaenai. Yna, gan ddangos ei ddyrnau, Lle maen' nhw? Lle maen' nhw?"
Wedi i gynffon yr orymdaith droi i'r brif stryd, neidiodd Llew hefyd oddi ar gefn y merlyn, a thynnwyd Gwyn yn ôl dipyn i eistedd mewn unigrwydd urddasol yn y cyfrwy. Ond nid oedd fawr neb i edmygu'r marchog, gan fod llif yr orymdaith wedi ysgubo pawb gyda hi. Pan oeddynt hanner y ffordd i fyny Tan-y-bryn, rhedodd Llew o'u blaenau a throi