"Basa', mi wn. Petai pob gweithiwr yn Llechfaen wedi mynd yn ôl i'r chwaral ar y telera' yna, fe fasai dy dad mor benderfynol ag erioed, wel' di. Un o'r dynion gora' yn yr hen chwaral 'na, 'ngwas i."
"Ia," cytunodd Llew yn dawel.
"A'th frawd Idris, o ran hynny," chwanegodd y bugail. "Mi fùm i'n gweithio yn ymyl y ddau, ym Mhonc Victoria, am dipyn. Cerrig reit dda, ond mi ges fy symud oddi yno i glirio rwbal yn y Twll dwfn, a hynny heb reswm o gwbwl... Lle buo Idris y misoedd dwytha' 'ma?"
"I ffwrdd yn chwaral Llan-y-graig am ryw fis, wedyn yn Llanarfon, wedyn yng Nghwm-y-groes. Ond pan ddaru nhw ddallt 'i fod o'n un o streicwyr Llechfaen, fe gafodd y sac bob tro. Wedyn fe aeth i Aber Heli fel nafi, yn dyfnhau'r afon ar gyfer y stemars. Dim ond rhyw dair wythnos fuo fo yno."
"Be' ddigwyddodd? Yr un peth?"
"Ia."
"Hm. Maen' nhw'n dallt 'i gilydd, wsti."
"Y Meistri?"
"Ia, dyna ydw' i'n ddeud, beth bynnag . . . 'Oes gan Idris holiad am le yn y Sowth 'na?"
"Oes. Mae 'i hen bartnar o, Bob Tom, yn deud y caiff o waith ar unwaith yno."
Buont yn dawel am dipyn, ac yna gofynnodd y bugail: "'Faint o blant ydach chi?"
"Pump i gyd.
Gwyn a finna' a Dan . . ."
"Be' mae Dan yn wneud?
"Mae o yn y Coleg, yn mynd yn deacher. Wedyn mae fy chwaer Megan a'i gŵr yn byw hefo ni."
'Rydach chi'n llond tŷ, felly."
"Ydan, 'nen' Tad. Ac mae Idris a'i wraig a'i ddau o blant y drws nesa' a F'ewyrth John, brawd fy nhad, yn union dros y ffordd."
Deuent i mewn i brif stryd y pentref yn awr, a deffroesai Gwyn o'i hanner-cwsg, gan ymsythu ar gefn y merlyn: yr oedd am fwynhau'r eiddigedd yn llygaid rhai o'i gyfeillion-ysgol a ddigwyddai fod ar yr heol. Ond fel y marchogent i mewn i Lechfaen, gwelent fod y lle'n ferw drwyddo. Llifai pobl tua'r Neuadd Fawr yng nghanol y pentref, a cherddai llawer o blismyn yn dalog ar hyd y palmant. Daethai'r