Tudalen:Chwalfa.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi sgwennodd ata' i ar ddiwadd y dwrnod cynta', yn gofyn imi ddŵad i lawr ato fo."

'Roeddach chi'n ffrindia' mawr hefo fo, felly?"

" 'Roedd Wil yn frawd imi. F'unig frawd."

"O, mae'n... mae'n ddrwg gin' i."

Ymdroellai'r ffordd i lawr drwy unigrwydd y cwm, rhwng waliau moelion, dan serthni creigiog, is llethrau addfwynach lle porai defaid, ymlaen heibio i rengau o binwydd tal, yna rhwng gwrychoedd deiliog tua thir mwy gwastad lle tyfai ambell dderwen ac ambell fedwen arian. Yn is i lawr yr oedd amryw o bobl yn brysur hefo'r gwair mewn cae bychan. Sylweddolai Llew mor bell y cerddasai ef a Gwyn y diwrnod hwnnw, ac arswydai wrth feddwl am ei frawd, pe baent heb gyfarfod y bugail, yn ceisio llusgo'i draed bob cam yn ôl adref. Daeth Llechfaen a'i chwarel fawr i'r golwg o'r diwedd. Ymguddiai'r rhan fwyaf o'r chwarel tu ôl i fryncyn coediog ar y chwith, ond gwelid rhai o'i chreigiau llwydlas bob ochr iddo ac un domen hir yn ymgreinio tua'r pentref. Yr oedd yr hwyr yn dawel iawn, ond oddi draw, o ystrydoedd Llechfaen, deuai sŵn tyrfa o bobl a phlant, rhai yn canu, rhai yn gweiddi

"Hwrê!"

"Yr orymdaith cyn y cwarfod," meddai Llew.

"Ia, fachgan. Diawch, fe fydd 'na le yn Llechfaen heno!"

Cyn hir aethant heibio i geg y ffordd a arweiniai i'r chwarel.

"Y tro dwytha' y bûm i y ffordd yma, ryw dair wythnos yn ôl," sylwodd y bugail, "yr oedd gwellt a mwsog' yn dechra' tyfu dros yr hen lôn. 'Doedd 'na fawr neb wedi cerddad hyd-ddi ers misoedd lawar. Ond 'rwan... Y diawliaid! 'Fe fydd y lôn yn fwsog' ac yn wellt i gyd cyn yr aiff neb yn ôl ond ar delera'r gweithwyr,' meddwn i wrthyf fy hun y tro hwnnw."

"'Oeddach chi ddim wedi clywad bod y swyddfa'n gwahodd enwau rhai i ail-ddechra'?" gofynnodd Llew.

"Oeddwn. Ond 'wnes i ddim meddwl y basa' neb yn ddigon o lwfrgi i gymryd yr un sylw o'r gwahoddiad. Y nefoedd fawr, a 'rŵan mae 'na dri chant o'r tacla'!"

"'Aiff neb o'n tŷ ni yn ôl nes bydd y dynion i gyd yn mynd, yn ydw' i'n siŵr o hynny," sylwodd Llew. "Mi fasa'n well gan 'Nhad weld Idris ne' fi yn ein bedda' na chael ein bod ni wedi troi'n Fradwyr."