Tudalen:Chwalfa.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sicr. 'Roedd 'na ddynion—yr ydw' i'n rhoi'r enw hwnnw iddyn' nhw am y tro—yn methu ag edrych yn fy llygaid i ac yn f'osgoi i ar y stryd. A phan glywis i fod rhai ohonyn' nhw'n cludo'u harfau'n llechwraidd, yn y nos, yn ôl i'r chwaral, yr oeddwn i'n ofni'r gwaetha'. Wel, yn y nos y mae pob Jwdas yn gwneud 'i waith, onid e?"

"Ia, 'nen' Tad, J.H.," meddai hen frawd dwys yn un o'r seddau blaen, a thorrodd ystorm o gymeradwyaeth drwy'r Neuadd.

"Fe dderbyniodd y gweithwyr hyn "—arhosodd "J.H." ennyd o flaen y gair "gweithwyr" a llefarodd ef â gwên fingam—"bunt y pen am ddychwelyd i'r chwarel . . ."

"'Punt-y-gynffon,' J.H.! "llefodd amryw, a nodiodd yntau.

"Ia, punt-y-gynffon.' Mae'r enw yn un go hen, ond ydi? Mewn ambell chwarel fe roed 'punt-y-gynffon' hefo'u cyflog i'r rhai oedd wedi fôtio i'r Tori. Bradychu'u hegwyddorion yr oedd y rheini. Bradychu'u hegwyddorion a'u cydweithwyr hefyd ydi braint y rhain . . . 'Wyddoch chi faint ydi punt?

Ugain darn o arian. Mae pris yr hen Jwdas wedi mynd i lawr dipyn, ond ydi?"

"Diar annwl, ydi," meddai'r un hen frawd, gan swnio fel petai'n porthi yn y Seiat. Ac unwaith eto yr oedd y gymeradwyaeth yn uchel.

"Erbyn hyn fe aeth Dydd y Farn heibio, ac fe benderfynodd tua thri chant o gynffonwyr ddewis y ffordd sy'n arwain i ddistryw. A heno cyn imi ddŵad i'r cwarfod 'ma mi ddarllenais Gywydd y Farn gan yr hen Oronwy. Dyma, yn ôl y bardd, fel y mae'r Gwaredwr yn siarad â'r ' euog, bradog eu bron,'—

'Hwt! gwydlawn felltigeidlu
I uffern ddofn a'i ffwrn ddu,
Lle Ddiawl a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen a phoen na phaid.
Ni chewch ddiben o'ch penyd:
Diffaith a fu'ch gwaith i gyd.'

A diffaith fu gwaith y Bradwyr hyn, bob un ohonyn' nhw, beth bynnag yw'r esgusion y mae rhai ohonyn' nhw'n ceisio'u gwneud. 'Does dim geiria' a fedar esgusodi brad."

Brathai "J.H." y frawddeg olaf, a gwyddai pob un yn y Neuadd nad oedd dim yn fwy atgas i'w enaid na dichell.