Tudalen:Chwalfa.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ymresymwr oedd ef, a'i feddwl clir a chyflym heb gysgod o ffuantwch ynddo. Gwelai egwyddor fel y gwelai rhywun arall ffordd neu lwybr, a gwyddai'n union i b'le'r arweiniai. Byddai'n amhosibl iddo ef gerdded y ffordd a throi'n llechwraidd ohoni i gyfeiriad arall; iddo ef, nid oedd llwybr a droai ymaith i ddeau nac aswy, dim ond y frwydr â'r per- yglon a'r rhwystrau o'i flaen. A chymerai'i natur onest a ffyddiog yn ganiataol fod pob meddwl arall yr un fath. Syfrdanwyd ef gan ymddygiad y Bradwyr.

Yr ydw' i'n gweld bod rhai o gyfeillion y Wasg yma heno," sylwodd, wedi i'r curo-dwylo dawelu," ac mae'n dda gennym ni 'u gweld nhw. Fe ymddangosodd ambell adroddiad pur anghywir mewn rhai papura'n ddiweddar, ac felly yr ydan ni'n dal ar y cyfla hwn i roi'n hachos yn glir a syml o flaen y cyhoedd unwaith eto."

Astudiodd ei nodiadau'n ofalus cyn mynd ymlaen, ac yna siaradodd yn dawel a phwyllog, fel cyfreithiwr yn mesur a phwyso pob gair, heb gyffro yn ei lais.

"I ddeall yr anghydfod presennol, y mae'n rhaid i chi fynd yn ôl i'r ysgarmes a fu bedair blynedd yn ôl. Yn y streic honno, a barhaodd am flwyddyn bron, y mae gwreiddia'r helynt yma. Fe gasglodd y Pwyllgor, fel y cofiwch chi, fan- ylion am y cwynion ymhlith y gweithwyr, a chyflwynwyd y manylion hynny i sylw'r awdurdoda'. Yr oedd paratoi'r ysgrifa' wedi costio wythnosa' o waith llwyr ac araf i'r is- bwyllgora', a cheisiodd y Pwyllgor Mawr ofalu bod pob ffaith a ffigur a dyddiad yn gywir, fod seilia' cadarn i bob cwyn. Cyflwynwyd y papura' i'r oruchwyliaeth yn nechra' Hydref, gan ofyn iddyn' nhw gymryd chwe mis i edrych i mewn i'r cwynion ac i wella petha' yn y chwarel. Os na wneid hynny, bwriadai'r dynion fynd ar streic yn nechra' Mawrth. Gwydd- och be' fu'r ateb i'r cais hwnnw. Ateb cyflym, cynnil, cwta. Derbyniodd pob aelod o'r Pwyllgor, ac eraill a fu'n cynorthwyo i gasglu'r ffeithia', nodyn i'w hysbysu na fyddai mo'u hangen mwyach yn y chwarel. A bu ateb y gweithwyr, yn agos i dair mil ohonyn' nhw, yn un llawn mor benderfynol. Cludodd pob un 'i arfa' o'r chwarel..."

"Pob un?"

"Beth am y bradwyr?."

"Y cynffonwyr?"

"Y cathod?"