Tudalen:Chwalfa.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwytha'. Credem inni ennill Siarter rhyddid i chwarelwyr Cymru. Nid oedd rhestr ddu i fod, dim dial, dim cosb, dim un merthyr, ond pawb i fynd yn ôl i'w hen fargen neu wal, lle'r oedd hynny'n bosibl. Wedi un mis ar ddeg o ymladd ac aberthu, yr oeddan ni'n cychwyn ar gyfnod newydd . . ."

Chwarddodd rhywun yn sarrug yng nghefn y Neuadd ac ymledodd y chwerthin hwnnw drwy'r dorf, ambell un, o fwriad, yn swnio'n orffwyll. Cododd "J.H." ei law am osteg.

"A gadwyd at y cytundeb?"

"Cadw? Naddo!" bloeddiodd amryw.

"Fe fu raid i rai o arweinwyr y streic honno adael y chwarel cyn hir, heb reswm, heb eglurhad o gwbl. Yr oeddwn i'n siarad ag un o'r merthyron hynny cyn imi ddŵad i'r cyfarfod 'ma heno. 'Roedd o'n un o'r ddirprwyaeth a fu'n llunio'r telera' newydd mewn yngynghoriad â'r awdurdoda', hen chwarelwr wedi rhoi ocs o lafur caled a chydwybodol i'r gwaith. Fe ddaeth swyddog ato fo un bora ymhen misoedd ar ôl yr helynt a dweud nad oedd angen ei wasanaeth mwyach. Dim angen ei wasanaeth? Edrychodd yr hen was yn ffwndrus ar y Stiward. Yr ydych i gludo'ch arfa' o'r chwarel, meddai hwnnw. Ond pam? Pam?' gofynnodd y chwarelwr. 'Does gen' i ddim amser i ddadla'," oedd yr ateb. Dyna'r gorchymyn gefais i i'w roi i chi.' Yr oeddwn i'n gweithio yn ymyl y gorthrymedig ar y pryd ac yn digwydd bod yn gyfaill mawr iddo. Gwyddwn hefyd fod ei wraig yn wael iawn a bod y teulu, wedi aberthu i roi addysg i'w plant, yn bur dlawd. Mi es yn syth i'r Swyddfa i holi beth oedd ystyr yr anfadwaith hwn. Fe rewodd pawb yno, a chefais fy nghynghori i feindio fy musnes fy hun. Mi aethom â'r peth ymhellach, at y Prif Oruchwyliwr ei hun, a'r ateb ymhen hir a hwyr oedd nodyn swta yn cadarnhau'r dyfarniad, heb affliw o eglurhad . . ."

"Cywilydd! Gormes! Gorthrwm !"

"Ia, cywilydd, gormes, gorthrwm. Un enghraifft oedd honno. Os oes rhai ohonoch chi, hogia'r Wasg, yn amheus eich meddwl, mynnwch air hefo'r hen chwarelwr hwnnw. Fe'i cewch yn ennill 'i damaid drwy dorri metlin ar fin y ffordd wrth Bont-y-Graig. A hyd heddiw 'ŵyr o ddim pam y bu raid iddo adael y chwarel . . ."

"Fe wyddom ni!"