Tudalen:Chwalfa.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddŵad ato fo i . . . y . . . ddweud eich cwyn, ond ydw' i frawd annwyl?"

Yr oedd y dynwarediad yn un perffaith, a gallai pawb yn y lle ddychmygu clywed gwefusau tenau, creulon, y swyddog hwnnw'n llefaru'r geiriau.

"A phan fethai hynny à bodloni'r gweithiwr," aeth "J.H." ymlaen, " yr oedd ganddo hawl i fynd â'i gŵyn ymhellach, at y prif awdurdoda'. Yr oedd y ffordd yn agored o'i flaen, heb rwystr na thramgwydd o fath yn y byd."

"A'r ffordd ar 'i ben o'r chwaral wedyn !" gwaeddodd rhywun.

"Yr ydw' i wedi manylu ar y pwnc hwn," sylwodd y siar- adwr, am 'i fod o wrth wraidd yr helynt presennol. Wedi un mis ar ddeg o streic fe aethom yn ôl i'r chwarel yn hapus bedair blynedd yn ôl. Ac un o'r telera' newydd oedd bod gan y gweithwyr hawl i ethol dirprwyaeth yn y modd y barna'r dynion yn briodol.' I ni, wrth gwrs, drwy bwyllgor oedd hynny, a theimlem wrth droi'n ôl i'n gwaith inni ennill rhywbeth a fu'n werth ymladd trosto cyhyd. Pwnc arall llosg oedd cwest- iwn y Contractors . . .

Torrwyd ar ei draws yn awr gan chwerthin chwerw a hwtiadau uchel: caseid pob contractor yn y chwarel â chas perffaith.

"Ein dymuniad ni oedd i'r drefn honno gael ei difodi'n llwyr, oherwydd yr annhegwch a'r gorthrwm a achosid drwy- ddí. Odani hi rhoddid darnau o'r chwarel, yn aml ponc gyfan, i gontractor i'w gweithio yn y ffordd a dybiai ef orau. Pwy oedd y dynion a gâi'r ffafr hon a'r anrhydedd hwn? . . ."

"Cynffonwyr ! Tacla' diegwyddor! Slêf-dreifars!"

"Wel, nid chwarelwyr medrus a phrofiadol, y mae hynny'n sicir! O na, yr oedd chwarelwyr medrus o phrofiadol, dynion galluoca'r gwaith, gwŷr wedi rhoi'u blynyddoedd gora' yn llwyr a chydwybodol i naddu'r graig yn ddoeth a diwyd, yn gorfod chwysu o dan ryw labrwr o gontractor. A chwysu oedd y gair, fel y gwn i o brofiad!"

Aeth murmur dig drwy'r lle, a chaeai ugeiniau eu dannedd yn chwyrn. Brysiodd "J.H." ymlaen a'i araith gan iddo weled rhai o'r plismyn yn anesmwytho.

"Wel, cawsom addewid y byddai pob contract o hynny ymlaen yn cael ei gyfartaledd teg o gyflog. O, yr oeddan ni'n dyrfa hapus yn dychwelyd i'r gwaith ar ddiwedd y streic