Tudalen:Chwalfa.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwith i'r llwyfan. Sylwodd Llew unwaith eto ar y tebygrwydd rhwng ei dad a "J.H." a theimlai'n hynod falch o hynny.

"Mi ddarllena' i'r penderfyniad ar unwaith Mr. Cadeirydd," meddai Edward Ifans. "Dyma fo—Fod y cyfarfod hwn o chwarelwyr Llechfaen, wedi sefyll allan dros eu hiawnderau am yn agos i wyth mis, yn parhau i gredu yng nghyfiawnder eu hachos ac yn condemnio yn y geiriau cryfaf ymddygiad nifer o'u cydweithwyr a werthodd eu hegwyddorion drwy ddechrau gweithio yn groes i ymrwymiadau cyhoeddus a roddwyd ganddynt hwy a chorff y gweithwyr ; drwy hynny yn anurddo ein henw da ac yn ein bradychu. Ymhellach, ein bod ni fel corff mawr o weithwyr yn penderfynu sefyll yn ffyddlon y naill wrth y llall nes sicrhau ein hiawnderau a'n hawliau teg.'

Darllenodd yn glir ac uchel, ond crynai'r papur yn ei law, a chrynai'i lais hefyd gan deimlad ar lawer gair. Wedi i'r gymeradwyaeth hir ac uchel dawelu, "Gwelwch fod yma mewn gwirionedd ddau benderfyniad," meddai, "un yn condemnio ymddygiad y Bradwyr a'r llall yn galw am undeb dewr, di-ildio, nes inni, chwedl y Cadeirydd, ddwyn barn i fuddugoliaeth. Neu efalla' mai dwy ochr i'r un penderfyniad sydd yma, oherwydd 'does gan yr un ohonom ni hawl i gondemnio'r Bradwyr os na fwriadwn ni ymladd i'r eithaf, beth bynnag fydd y dioddef a'r aberth a olyga hynny. Ystyriwch yn ddwys. Efalla' y pery'r helynt hwn am wyth mis arall ac y byddwn ni'n gorfod wynebu gaeaf o gyfyngder mawr heb ddillad cynnes, heb fwyd, heb dân. Efalla' y bydd rhai o'n cyfeillion gora' ni, rhai o'n brodyr, rhai o'n meibion, yn gwanhau ac yn troi'n Fradwyr. A fyddwn ni'n ddigon cryf a gwrol i ddal at y penderfyniad hwn wedyn? Os na chredwn hynny, peidiwn â phleidleisio trosto fo heno: byddwn yn onest hefo'n hunain a hefo'n gilydd. Ac os gwêl rhai ohonoch chi rywun neu rywrai heb godi llaw o blaid y penderfyniad, peidiwch â chyffroi i'w dirmygu a'u herlid. Y mae onestrwydd felly'n fwy anrhydeddus ganwaith na phleidleisio ac yna gario'u harfa' i'r chwarel yn slei bach yn y nos, a dibynnu wedyn ar amddiffyniad plismyn bob bora a hwyr ar y ffordd i'r gwaith ac oddi yno. Nid fy mod i'n credu am funud y bydd rhai felly yn ein plith ni yma heno, ond y mae'n deg pwysleisio difrifwch y penderfyniad hwn. Meddylied pob un