Tudalen:Chwalfa.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

drosto'i hun, yn dawel a sobr; nid cael ei gario ymaith gan y brwdfrydedd o'i gwmpas. Triwch, bob un ohonoch chi, fod yn unigolyn mewn torf, gan lawn sylweddoli ystyr y penderfyniad nid yn unig i chi'n bersonol ond i'ch gwragedd a'ch plant, i gartrefi ac ysgolion ac eglwysi ardal sy'n dibynnu bron yn llwyr ar y chwaral."

Arhosodd Edward Ifans am ennyd, gan wrando ar y mur- mur dwys a âi drwy'r lle. Gwaith hawdd, fe wyddai, fuasai cyffroi'r dyrfa hon i felltithio'r Bradwyr ; rhwydd fyddai cael cyfarfod o frwdfrydedd heb ei ail ac yna orymdaith o wŷr bygythiol o'r Neuadd drwy'r pentref cyn gwasgaru am y nos. Ond yr oedd angen unoliaeth ddyfnach, sicrach, arnynt yn awr.

"Rhyw ddeufis yn ôl, Llun y Pasg, yr oedd rhyw ddwy fil ohonom ni yn y cyfarfod mawr ar y cae wrth yr afon. Mi gefais i'r fraint o gynnig penderfyniad y tro hwnnw—ein bod ni'n cario'r frwydr ymlaen yn unol ac eofn nes ennill ein hawlia' fel gweithwyr. Yr oedd yno goedwig o ddwylo o blaid hynny, a dim un yn erbyn. Y mae dwsina' a oedd yn y cyfarfod hwnnw wedi derbyn 'punt-y-gynffon' ddydd Mawrth dwytha' . . . "

"Cywilydd! Gwarth! Rhagrith!"

"Ia, ond gofalwn na ddigwydd yr un peth y tro hwn eto. Cofiwn mai'r rhai uchaf 'u cloch ar ddechra'r helynt 'ma ac mewn llawer cyfarfod sydd yn rhengau blaen y Bradwyr heddiw. Os pleidleisiwn yma heno, gwnawn hynny gan benderfynu na thry dim ni oddi ar y llwybyr, mai gwell angau na chywilydd. Fe fydd y demtasiwn yn fawr i rai ohonoch chi, oherwydd mae 'na ddylanwada' cyfrwys, llechwraidd, ystrywgar, ar waith yn yr ardal 'ma a sibrydir geiria' mwyn ac addewidion teg yn eich clust chi. Dywedir wrthych y gellwch chi droi'r cerrig yn fara, a bydd eisiau nerth i fedru ateb nad ar fara'n unig y bydd byw dyn. Gweddïwn am y nerth hwnnw, gyfeillion, yn yr wythnosa' a'r misoedd caled sy'n ein hwynebu ni . . .

"Ia, wir, Edwart," meddai'r hen frawd dwys yn un o'r seddau blaen. Ond ni chwarddodd neb: gafaelai rhyw ddifrifwch mawr yn y dorf i gyd.

"Cofiwn," aeth Edward Ifans ymlaen, "nad brwydyr Llechfaen yn unig ydi hon, ond brwydyr y gweithiwr ym mhob man, brwydyr egwyddorion, brwydyr anrhydedd. Y