Tudalen:Chwalfa.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mae Undeb y Chwarelwyr o'n plaid ni, rhai o'r arweinwyr gwleidyddol galluoca'—gwŷr fel Keir Hardie, William Jones, Lloyd George—yn dadla' trosom ni, a gweithwyr y wlad i gyd tu cefn inni. Fel y dengys yr arian a lifodd i mewn i Gronfa'r Streic ac fel y profa'r derbyniad a gafodd ein cora' a'n casglwyr drwy Gymru a Lloegr, aeth achos chwarelwyr Llechfaen bellach yn fater o ddiddordeb byw—ia, o gydwybod—i'r holl wlad. Y mae llygaid gweithwyr y deyrnas i gyd yn troi tua Llechfaen, yn ein gwylio'n esgud a hyderus. Brwydrwn dros ryddid, rhyddid i ymuno â'n gilydd ac i ethol ein pwyllgor ein hunain, rhyddid rhag gormes a cham a rhegfeydd wrth ein gwaith, rhyddid rhag angen wedi llafurio'n ddiwyd a chydwybodol. Yn ddwys a difrifol, Mr. Cadeirydd, nid ag ysbryd her a bocsach, yr ydw' i'n cynnig y penderfyniad hwn sy'n condemnio'r Bradwyr ac yn galw ar gorff mawr y gweithwyr i ymladd ymlaen nes sicrhau eu hiawnderau a'u hawliau teg."

Cerddodd Edward Ifans yn ôl i'w sedd yng nghanol cymeradwyaeth fawr, a phan ddychwelodd i'w le, gwelai Llew ei frawd Idris yn gwasgu braich ei dad i'w longyfarch ar ei araith. Yna galwodd y Cadeirydd ar hen chwarelwr o'r enw William Parri i eilio'r penderfyniad. Distawodd pawb : gwyddent oll fod ei fab, Twm Parri, yn un o'r Bradwyr.

"Pam oeddan' nhw'n gofyn i'r hen William?"

"Fe oedd yn crefu am gael gwneud," atebodd rhywun. "Golygfa drist," meddai William Parri, "oedd honno welsom ni fis Tachwedd dwytha', yntê?—hen weithwyr fel fi a Robat Wilias yn cario'u harfa' o'r chwaral. Ond mi welis i olygfa fwy torcalonnus o lawar yr wsnos yma. Fel Robat acw mi godis inna'n gynnar bora Mawrth, ac mi es allan ac i lawr i'r lôn bost am dro. Cyn hir dyma ryw bymthag o'r Bradwyr a dau blisman yn dwâd heibio, y gweithwyr yn cludo'u harfa'n ôl i'r gwaith. Pam yr oeddan' nhw'n cerddad mor gyflym, ty bad, fel 'tai rhywrai'n 'u herlid nhw? O, trio dianc rhag 'u cydwybod yr oeddan' nhw, wchi. Pam yr oeddan' nhw mor dawal, heb ddeud fawr air wrth 'i gilydd? Am 'u bod nhw'n rhy euog i fedru diodda' gwrando ar 'u lleisia'u hunain. Pam yr oeddan' nhw'n 'i sgwario hi mor dalog heibio i mi, fel rejimant o filwyr? O, trio perswadio'u hunain 'u bod nhw'n ddynion, fel rhywun meddw'n cymryd arno'i fod o'n sobor. Ond er i mi, fel Robat Wilias, fyw i