Tudalen:Chwalfa.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD III

DEFFROES Llew yn fore iawn. Yr oedd yr ystafell yn bur dywyll, ond y tu allan ar y stryd clywai sŵn traed a lleisiau lawer. Yna cofiodd yr oedd hi'n fore Mawrth a phobl yn tyrru tua'r orsaf a'r trên i'r Sowth. Clywai sibrwd wrth wely Dan, a oedd wrth droed yr un lle cysgai ef a Gwyn, ac o graffu drwy'r gwyll gwelai fod rhywun yn sefyll yno. Ei dad yn deffro Dan. Wedi i Dan ymbalfalu'n frysiog am ei ddillad, sleifiodd y ddau allan, gan gau'r drws yn dawel o'u hôl.

Dyheai Llew yntau am godi a mynd i lawr i'r orsaf i weld Idris a Dic Bugail a llu o rai eraill yn cychwyn i'r De, ond cawsai siars gan ei fam y noson gynt i gofio peidio â deffro Gwyn. Ni fuasai ef yn dda ar ôl y daith i'r mynyddoedd : gafaelai rhyw gryndod weithiau ynddo, a chwysai lawer yn y nos. Penderfynodd Llew fynd yn ôl i gysgu.

"Llew!"

Ni chymerodd yr un sylw, ond anadlu'n drwm.

"Llew!" Rhoes Gwyn bwniad â'i benelin yng nghesail ei frawd.

"B . . . be' sy? 'Ydi hi'n amsar codi?" "Nac ydi. Clyw!"

Be?

"Sŵn pobol yn mynd i'r stesion. A mae Tada newydd fod yn deffro Dan."

"Sut y gwyddost ti?"

"Mi glywis i'r ddau'n mynd . . . 'Ddoi di, Llew?" "Y? I b'le?"

"I'r stesion, debyg iawn."

Dos yn d'ôl i gysgu. Mi wyddost be' ddeudodd 'Mam neithiwr."

'Fydd hi ddim yn gwbod. Mi sleifiwn ni i lawr yn ddistaw bach, wsti." Yr oedd Gwyn ar ei eistedd erbyn hyn.

"Fe fydd 'Nhad a Dan yn y stesion."

"'Welan' nhw mono' ni yn y twllwch ac yng nghanol y crowd."

"Twllwch!" Estynnodd Llew ei law i symud tipyn ar y bleind, a ffrydiodd golau i'r ystafell.