"Dim ots, os cadwn ni tu ôl i'r bobol. 'Wyt ti am ddŵad?" "Nac ydw'."
"Paid 'ta'. "
Ymwingodd Gwyn tros gorff ei frawd ac o'r gwely, a dechreuodd wisgo amdano. Cododd Llew hefyd, ond gan gymryd arno mai'n anfoddog iawn y gwnâi hynny.
"Cofia na roi di mo'r bai arna' i, 'rwan," meddai wrth ymestyn am ei ddillad.
"Pryd y rhois i fai arnat ti?"
"Sh, y ffwl! "
"Pryd y rhois i fai arnat ti?"
"'Wyt ti am i 'Mam dy glywad di? Cau dy geg a gwisga'n dawal, 'wnei di?"
Sleifiodd y ddau i lawr y grisiau ac i'r gegin yn nhraed eu 'sanau, ac wedi gwisgo'u hesgidiau aethant o'r tŷ yn dawel a thua'r orsaf. Yno yr oedd tyrfa fawr yn canu'n iach i berthynasau a chyfeillion, a safodd y ddau fachgen yn wyliadwrus tu ôl i rai ohonynt ond o fewn ychydig lathenni i'r cerbyd yr oedd Idris a Dic Bugail ynddo.
"Dydi Kate Idris ddim yma," meddai Gwyn.
"A hitha'n mynd i gal babi yn reit fuan? Nac ydi, debyg iawn."
Gwrandawsant ar lawer siars i "gofio sgwennu" a "mynd i'r capal" a "newid dy 'sana' os gwlychi di," ac yna daeth Wil Portar heibio i gau'r drysau ac i weiddi ei gynghorion ysmala—" Gad di lonydd i'r gennod tua'r Sowth 'na, Robin,' "Paid â rhoi dy ben allan yn y twnnal, Jac," " Ydi dy wasgod gin' ti, Wil?"
Y ffraethineb olaf a ddeffroai'r chwerthin mwyaf. Chwiliai Wil Sarah am ei wasgod un prynhawn Sadwrn cyn cychwyn ar frys gwyllt i ddal y trên i'r dref. Aeth ei wraig i'r llofft i weld beth oedd ystyr y rhegfeydd a glywai, a phan ddeallodd, "Ond yr argian fawr, mae'r wasgod amdanat ti, ddyn!" gwaeddodd. "Wel, ydi, 'tawn i'n llwgu!" meddai Wil. "Diawch, lwc iti 'i ffeindio hi, yntê Sarah, ne' mi faswn wedi mynd hebddi, wel'di!"
Daliai Gwyn yn ei law garreg fach lefn o'r afon, wedi'i naddu ar ffurf calon. Yn ei chanol tynasai'r deunydd llwyd-wyrdd lun calon arall.
"Mae arna' i isio rhoi hon i Idris," meddai. "I gofio amdana' i."