Tudalen:Chwalfa.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Ron i'n meddwl y basa'n rhaid i ti gael gwneud rhyw giamocs," ebe Llew yn ddig. "Pam na fasat ti'n 'i rhoi hi iddo fo neithiwr? Mae'n rhy hwyr 'rwan."

"'Ydi hi?"

Brysiodd Gwyn ymlaen at Wil Portar i sibrwd yn ei glust ac i roi'r garreg yn ei law. Yna dychwelodd at Llew a gwyl- iodd y ddau y dyn bychan yn gwthio rhywbeth i law Idris ac yn rhoi winc fawr arno : winciai Wil Portar hefo'i geg a hanner ei wyneb yn ogystal â'i lygad. Gwelsant Idris yn craffu amdanynt, ac ni allai Gwyn beidio â'i ddangos ei hun am ennyd a chwifio'i law. Troes Edward Ifans a Dan eu pennau yr un pryd, a diflannodd Gwyn yn ôl i'w guddfan.

"Dyna 'Nhad wedi dy weld di, was."

"Naddo."

"Do. Tyd, inni gael mynd yn ôl i'r gwely 'na cyn i 'Mam godi. 'Falla' na ddeudith 'Nhad ddim wrthi hi. Tyd." Ac yn ôl i'r tŷ yr aethant, gan sleifio i fyny'r grisiau ac i'w gwely. Pan alwodd eu chwaer Megan hwy ymhen rhyw ddwyawr, yr oedd y ddau'n cysgu'n braf.

I lawr yn y gegin, pan gyrhaeddodd y ddau yno, eisteddai Ifor, gŵr Megan, wrth y bwrdd yn bwyta'i frecwast, ac Edward Ifans a Dan yn sgwrsio wrth y lle tân. Dyn ifanc llon, byrbwyll, uchel iawn ei lais, oedd Ifor. Trwyn nobl, Rhufeinig; llygaid o las golau ; gwallt melyn, cyrliog—yr oedd yn fachgen hardd ar yr olwg gyntaf. Ond dywedai'r wefus isaf drwchus, blentynnaidd, greulon, na faliai Ifor Davies ryw lawer am neb na dim ond ef ei hun. Buasai'n briod â Megan ers rhyw dri mis—bu raid iddynt briodi-ac er na hoffai Edward na Martha Ifans mohono, gwnaent eu gorau glas i guddio hynny er mwyn Megan. Llanc wedi'i ddifetha'n Ilwyr oedd Ifor. Cawsai dros ddwy flynedd yn yr Ysgol Ganolraddol newydd yn Llechfaen. yn bla bywyd i bob athro ac athrawes, ac o'r diwedd awgrymodd y Prifathro i'w rieni y gwnâi les i Ifor-ac i'r ysgol—pe câi'r bachgen—a'r ysgol—eu rhyddid. Swyddfa gyfreithiwr yn y dref a gafodd ei hanhrefnu ganddo yn nesaf, ond wedi i sylltau lawer ddiflannu'n ddirgelaidd bob wythnos am ddeufis, penderfynodd y cyfreithiwr na allai fforddio talu am gwrw'i glerc. Aeth ei dad ag ef wedyn at Robert Roberts y Teiliwr, hen frawd hynod ddoeth a gwybodus, Gamaliel yr ardal. Adroddodd Gruffydd Davies hanes gyrfa ddisglair ei fab yn yr Ysgol Ganolraddol