Tudalen:Chwalfa.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn swyddfa'r cyfreithiwr, gan egluro bod yn y bachgen ragoriaethau a rhinweddau a doniau lu, heb eu hamlygu eu hunain eto.

"Be' wnawn ni hefo fo, deudwch, Robert Roberts?" gofynnodd yn eiddgar ar ddiwedd ei araith.

"Cwestiwn reit hawdd, Gruffydd Davies," atebodd yr hen deiliwr, gan gydio yn y tâp-mesur a oedd yn hongian am ei wddf.

"O?"

"Ia, 'nen' Tad. Mi fesura' i'r hogyn am drowsus y munud 'ma."

Trowsus?"

"Ia. Melfared."

Ochneidiodd ei fam, Letitia Davies fawreddog, lawer wrth weld ei hunig fab yn cychwyn i'r chwarel un bore yn ei drowsus melfared a'i esgidiau hoelion-mawr. Ond yr oedd Ifor wrth ei fodd. A chyn hir enillai gyflog pur dda yno-nid fel crefftwr medrus a diwyd ond fel cyfaill i ambell gontractor. Cyfarfyddai â hwy'n rheolaidd yn y "Snowdon Arms" a gofalai Ifor dalu am ddiod iddynt. Er hynny, pan dorrodd y streic allan, Ifor Davies oedd un o'r rhai gwylltaf ac uchaf ei lais, a chafodd amser bendigedig am rai nosweithiau yn malu ffenestri contractor a stiward, gan anghofio'n llwyr y ffafrau a gawsai ef ganddynt. Ymunodd wedyn ag un o'r corau a grwydrai'r wlad i gasglu arian, a chan fod ganddo lais bas gwych, ef a ganai unawdau fel "Y Teithiwr a'i Gi" a Merch y Cadben" a'r unawd " "Ymgrymwn . . ." yn "y Pererinion." Rhybuddiwyd ef droeon y byddai'n rhaid iddo droi adref os daliai i yfed ar y teithiau hyn yr oedd sobrwydd yn un o reolau'r côr. Galwodd Ifor y tri Rechabiad yn y cwmni at ei gilydd a gofynnodd iddynt benderfynu a oedd seidr yn ddiod feddwol ai peidio. Ymneilltuodd y tri i gynnal pwyllgor dwys ar y pwnc, ac wedi araith huawdl ar rinweddau'r afal gan un ohonynt-a gâi byliau hiraethus am y dyddiau di—syched gynt-pasiwyd, gyda chymorth pleidlais y Cadeirydd, fod gwin afalau yn iechyd i gorff a meddwl. Yfodd Ifor ei gwrw'n rheolaidd wedyn—gan ofalu mai " CIDER " a oedd ar y botel.

Ac yn awr yr oedd Ifor Davies yn briod â Megan ac yn byw yn "Gwynfa." Siom fawr i Letitia Davies fu priodas frysiog ei mab penfelyn â merch o stryd dlodaidd Tan-y-bryn, ond