ni phoenai Ifor am hynny. Ai i weld ei rieni weithiau-i "fenthyg " hanner sofren—a threuliai nosweithiau difyr wedyn yn y "Snowdon Arms" yn yfed eu hiechyd.
Ond yr oedd Megan yn ddall i ffaeleddau'i gŵr anystyriol, a rhôi dafod i Gwyn neu Llew os beiddiai un ohonynt yngan gair beirniadol am Ifor. Yr oedd wrthi 'nawr yn gweini arno, a sylwodd y ddau fachgen fod eu brawd yng nghyfraith yn cael tamaid o gig moch i frecwast, a hwythau'n gorfod bodloni ar fara-saim.
"'Fuoch chi i lawr at y trên, Ifor?" gofynnodd Gwyn, gan deimlo'i fod yn gyfrwys iawn wrth ofyn y cwestiwn. Ni welodd y winc a daflodd Edward Ifans ar Dan."
"Wel, naddo, wir, fachgan. Mi rois i fy nhraed allan o'r gwely tua'r pump 'ma, gan feddwl mynd i'r stesion, ac mi aeth y ddwy fel clai. 'Roeddan' nhw mor oer nes oedd fy mhen i'n troi fel simdda Price-Humphreys. Mi'u tynnis nhw'n ôl am funud i gnesu, a'r peth nesa' glywis i oedd Megan 'ma'n fy ngalw i gynna'. Coblyn o dro, yntê, 'r hen ddyn?
Taflodd Megan ei phen i fyny, gan gymryd arni fwynhau'r digrifwch, ond gwyddai'r ddau fachgen na chyraeddasai Ifor y ty'n gynnar nac yn sobr y noson gynt. Gwenu i guddio'i phryder yr oedd eu chwaer. A heddiw, ymddangosai'n nerfus a ffwndrus, fel petai rhyw ofid yng nghanol ei meddwl.
"Lle mae 'Mam?" gofynnodd Llew.
"Yn y drws nesa' yn helpu Kate," atebodd ei dad. "Mi gewch chitha'ch dau redag yno ar ôl i chi fwyta, i fynd â Griff ac Ann fach allan am dro. Ond nid at yr afon, cofiwch chi 'rŵan."
Bwytaodd y tri'n dawel am dipyn, ac yna cododd Gwyn ei ben yn sydyn i ofyn: "Sut le sy yn y jêl, Ifor?"
At y nos Sadwrn gynt y cyfeiriai. Daethai Ifor a'i orymdaith swnllyd i wrthdrawiad â rhai o'r plismyn, a phenderfynodd y rheini roi cyfle i'r arweinydd cegog sobri yn y rhinws.
"Lle crand gynddeiriog, 'r hen ddyn. Ryg dew o groen teigar ar y llawr, cadair esmwyth ar yr aelwyd, piano fawr wrth y wal, powlaid o ffrwytha' ar y seld, rhes o lyfra' difyr ar fwrdd bach wrth y gwely . . ."
"Lle iawn i aros am ryw fis, 'fuaswn i'n meddwl," sylwodd Llew braidd yn sur. Bu amser y chwarddai ef a Gwyn am ben popeth a ddywedai'u brawd yng nghyfraith, ond erbyn hyn, ac yn arbennig ym meddwl Llew, tyfodd rhyw gnewyllyn