Tudalen:Chwalfa.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o elyniaeth. Hyd yn oed pan ganai Ifor yn y tŷ ambell gyda'r nos ac yr oedd yn ganwr heb ei ail—yr oedd chwerwder tu ôl i'r edmygedd yn llygaid Llew.

"Am fis?" atebodd Ifor. "Ia, i rai sy wedi arfar hefo steil, wsti. Ond 'wyddwn i ddim yn fy myw sut i drin y cyllyll a'r ffyrc amsar swpar nos Sadwrn. Na, bwyd plaen i'r bôi yma, heb ddim lol o'i gwmpas o. Yntê, Dan?

Nodiodd Dan, gan wenu'n dawel. Yr oedd apelio'n uchel fel hyn at Dan yn arferiad gan Ifor, efallai am fod "Y Sgolar " mor bell a breuddwydiol ei ffordd. A phob tro y digwyddai hynny, teimlai Llew'r elyniaeth o'i fewn yn galed, fel cainc mewn pren. Oherwydd, iddo ef, nid oedd neb yn y byd fel Dan, a thybiai fod rhyw awgrym o ddirmyg weithiau yn llais Ifor wrth iddo droi at "Y Sgolar." Pan waeddai "Yntê, Megan?" a phan chwarddai hi mewn ateb iddo, popeth yn iawn ; ond yr oedd i Ifor geisio hudo'i dad neu'i frawd Dan i'w glebran yn gwneud Llew yn annifyr drwyddo. Teimlai eu bod yn cael eu tynnu o fyd eu meddyliau tawel, difrif, i un swnllyd a di-chwaeth, fel pe o gynteddau capel Siloh i awyr—gylch y "Snowdon Arms." Ac weithiau llithrai i dafod Ifor eiriau a oedd yn ddieithr iawn ar aelwyd Gwynfa." Soniai am "hen gythral o ddyn "neu "bitsh o ddynas" heb flewyn ar ei dafod, gan gymryd arno na welai'r rhybudd yn edrychiad Megan. Ond ni châi Gwyn a Llew weld na chlywed Ifor ar ei waethaf: gofalai Edward a Martha Ifans fod y ddau yn eu gwelyau ymhell cyn iddo dychwelydd o'r "Snowdon Arms" bob nos pan wyddent fod arian ganddo.

"Y postman!" gwaeddodd Gwyn, gan redeg allan i ateb cnoc awdurdodol ar y drws. Dychwelodd hefo dau lythyr, un i Ifor ac un i Dan. Trawodd Ifor y llythyr yn frysiog yn ei boced a chododd.

"Wel, mi a'i i lawr i weld rhai o'r hogia'," meddai.

Ym mharlwr y "Snowdon Arms," yn chwarae cardiau a disiau a "draughts "y treuliai ef ei foreau gan amlaf. Crwydrodd Gwyn a Llew hefyd i'r drws nesaf, a gadawyd Edward Ifans a Dan eu hunain yn y gegin. Estynnodd Dan ei lythyr i'w dad.

"Oddi wrth ffrind imi yn y Coleg," sylwodd. "Emrys, hogyn o Gaer Fenai."

A darllenodd yntau: