Tudalen:Chwalfa.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iti heb â'i gelu o,' meddwn inna'. Fe fydd yr ardal 'ma i gyd yn gwbod ymhen diwrnod ne' ddau. Mae'n rhaid i bob Bradwr ddwad i'r amlwg, wsti.' Fe wylltiodd yn gacwn, ac wedyn fe ddechreuodd ddadla' nad oedd o am weld 'i wraig yn llwgu. "Ydyn' nhw'n bygwth peidio â rhoi chwanag o ddiod iti yn y Snowdon Arms'? oedd f'atab inna'. Fe gydiodd yn f'arddwrn i a gwasgu nes . . . O, Tada, mae arna' i ofn."

"Nes beth?"

"Dim byd, dim byd, Tada. Arna' i 'roedd y bai. 'Ddylwn i ddim bod wedi deud peth fel'na wrtho fo."

"Nes beth?"

"Nes. . . nes oeddwn i ar fy nglinia'." Syllodd ar ei harddwrn yr oedd y cochni'n troi'n ddûwch arno. "'Welis i mono fo felly o'r blaen." Yr oedd yr atgof yn ddychryn yn ei llygaid. "Ond arna' i 'roedd y bai, am siarad fel'na hefo fo."

Gadawodd ei thad i bwl arall o wylo dawelu cyn gofyn: "Pryd mae o'n dechra' gweithio?"

"Dydd Llun nesa'.


Pryd y gyrrodd o 'i enw i mewn?"

"'Wn i ddim. Yr wsnos ddwytha' rywdro, mae'n rhaid." Ia. Ond . . ." Tawodd Edward Ifans, gan benderfynu cadw'i feddyliau iddo'i hunan. Derbyniasai Ifor bunt o Gronfa'r Streic nos Wener, a nos Sadwrn, ceisiodd drefnu gorymdaith tu allan i'r Neuadd. Yr oedd rhyw dro rhyfedd yng nghynffon Ifor Davies.

"Gad di hyn i mi, Megan fach," meddai. "Mi ga' i air hefo Ifor amsar cinio." Yr oedd ei hwyneb hi'n llawn ofn. "Na, paid â dychryn. 'Sonia' i ddim gair amdanat ti, dim ond imi sylwi ar yr amlen 'na . . .

Ond wrth ffenestr y gegin, wedi troi'n ei ôl yn annisgwyl, oedai Ifor am ennyd. Dim ond am eiliad, ond yn ddigon hir i'w lygaid craff fedru darllen a deall yr olygfa. Gwyrodd Megan yn gyflym i gymryd arni dwtio'r lle tân.

"Mae gin' i go' fel gogor," medaai Ifor wrth ddod i mewn atynt. "Digwydd taro ar Wil Ned i lawr y pentra' 'na. Wedi addo rhoi benthyg fy nghopi o'r 'Pererinion' iddo fo."

Croesodd y gegin ac agor y drws i'r grisiau.

"Ifor?"

"Ia, Edward Ifans?"