Dan. Ond go ddu y mae petha'n edrych, wir." Ysgyd-wodd ei ben yn llwm. Yna caledodd ei lygaid fel y syllai ar y cerdyn a oedd ar y silff-ben-tân. Mae petha' fel hyn yn digwydd bron ym mhob tŷ yn Llechfaen y dyddia' yma. Rhywun yn sâl, rhywun yn drwm mewn dylad, rhywun yn gorfod tynnu'i fachgen neu'i ferch o'r ysgol neu'r Coleg. Ond 'ildiwn ni ddim, 'ildiwn ni ddim. Mi frwydrwn i'r pen y tro yma. Gwnawn, i'r pen, costied a gostio.'
Daeth Megan i mewn, wedi gorffen golchi llestri'r brecwast, i daro'r lliain yn nrôr y dresal. Yr oedd ei hamrannau'n goch, fel petai hi newydd fod yn crio.
"Be' sy, Megan?" gofynnodd ei thad.
"Be'? Dim byd."
Gododd Dan. "Mi a' i atyn' nhw i'r drws nesa'," meddai, gan frysio tua'r drws.
Megan?"
"Ia, Tada?"
"Tyd i ista' i lawr am funud, 'ngeneth i."
Ufuddhaodd hithau, gan gymryd y gadair lle'r eisteddasai
Dan.
"Wel, Megan fach? "
Ateb Megan oedd torri allan i feichio wylo. Gadawodd ei thad iddi ddod ati'i hun cyn dweud: " Efalla' y medrwn ni dy helpu di, wel' di. Be' sy'n bod?"
"Y llythyr 'na," meddai hi, heb edrych arno.
"Llythyr? "
"Gafodd Ifor bora 'ma."
A oedd y llanc mewn helbul? Mewn dyled? Neu'n talu sylw i ryw ferch arall?
"'Wyddwn i ddim 'i fod o wedi gyrru'i enw i mewn."
Nid oedd ond un ystyr i'r geiriau, a chododd Edward Ifans ei olwg yn reddfol tua'r cerdyn ar y silff-ben-tân. "NID OES BRADWR YN Y Tŷ HWN," meddai'n chwerw wrtho'i hun.
"Be' . . . be' ddigwyddodd bora 'ma, 'merch i?"
"'Roedd Jane, gwraig Twm Parri, wedi deud wrtha' i fod 'na griw o'r 'Snowdon Arms' wedi gyrru'u henwa' i'r chwaral a bod Ifor yn 'u plith nhw. Chwerthin wnes i: 'doeddwn i ddim yn 'i chredu hi. Ond pan welis i amlen y llythyr 'na bora, mi wyddwn 'i bod hi'n deud y gwir. 'Be' oedd y llythyr 'na, Ifor?' mi ofynnis i iddo fo yn y gegin fach ar ôl brecwast. O, dim o bwys,' meddai yntau. 'Waeth