Tudalen:Chwalfa.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Er dyheu ohono yn ei galon am ddarbwyllo'i ferch, gwisgodd Edward Ifans fwgwd y ffug ystyfnig hwnnw am rai misoedd, ond bu raid iddo'i daflu ymaith yn sydyn un bore. Wrth ei mam y torrodd Megan y newydd am ei helbul, ac yn lle rhewi drwyddi a phregethu, bu Martha Ifans yn ddigon doeth i fod yn garedig. Ni hoffai fab Letitia Davies, ond yr hyn a wnaed a wnaed a'i lle hi oedd ceisio ysgafnhau'r baich llethol ar ysgwyddau'i merch. Caent briodi'n dawel yn y dref ac yna dôi'r llanc i fyw atynt i Gwynfa' am gyfnod. Diar annwyl, oni fu Modryb Elin mewn helynt tebyg ac onid oedd Trefor ei mab erbyn hyn yn hogyn y gallai unrhyw fam fod yn falch ohono? Lleihaodd yr ing yn llygaid Megan, ond . . . ond beth am Tada? A churai'r un cwestiwn ym meddwl Martha Ifans, oherwydd gwyddai mor anhyblyg y medrai'i gŵr fod. Clywodd y ddwy sŵn ei draed pwyllog ar lwybr yr ardd, a gyrrodd y fam ei merch i'r drws nesaf at Kate, gwraig Idris.

"Be sy, Martha?" gofynnodd ef pan welodd y pryder yn ei hwyneb.

"Peidiwch â bod yn gas wrthi, Edward, peidiwch â bod yn gas wrthi. Mae hi wedi pechu, mi wn, ond mae hi bron â thorri'i chalon. Peidiwch â bod yn llym arni, yr ydw' i'n crefu arnoch chi."

"Llym? Pechu? Pwy?"

Megan. Mae hi mewn . . . trwbwl."

"Pryd y clywsoch chi hyn?"

"Bora 'ma Gynna'. O, Edward, peidiwch â . . ."

"Lle mae hi?" Yr oedd ei wyneb fel y galchen a'i wefusau'n dynn.

"Gwrandewch, Edward, yr ydw' i'n erfyn arnoch chi . . . "

"Lle mae hi?"

"Yn . . . yn y drws nesa' hefo Kate."

Troes ef ymaith, gan fwriadu brysio yn ei ddicter i'r tŷ nesaf. Ond daeth Kate, gwraig Idris, i mewn atynt. Merch fechan eiddil yr olwg ond prydferth fel dol oedd hi, a'i llygaid glas, breuddwydiol, a'i chroen glân a chlir a'i gwallt melynwyn yn gwneud i rywun feddwl am un o'r Tylwyth Teg. Yr oedd Edward Ifans yn hoff iawn ohoni.

"Yr on i ar gychwyn acw-i gael gair hefo Megan," meddai ef.