Tudalen:Chwalfa.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Wnewch chi un peth bach imi, Dad?" gofynnodd Kate. "Dad" y galwai hi ef bob amser.

"Be'?"

Cymryd amsar i feddwl cyn gweld Megan. Mae hi am gael tamaid o ginio hefo ni ac wedyn yr ydw' i a hitha' a'r plant am fynd am dro i'r Hafod. Mi gawn 'banad o de yno hefo Esther. Ewch chitha' am dro i fyny'r afon pnawn 'ma. 'Wnewch chi?"

Gwyddai fod y cyngor yn un doeth: dôi tawelwch meddwl wrth furmur yr afon os yn unman.

"O'r . . o'r gora', Kate."

Ond ni wyddai y câi gwmni'i frawd John y prynhawn hwnnw. Kate a redodd dros y ffordd i adrodd hanes yr helynt wrth John Ifans ac i ofyn iddo daro'n ddamweiniol ar ei frawd i lawr wrth yr afon.

Y gwarth, y lleisiau maleisus, yr enwi o'r Sêt Fawr-llanwai'r pethau hyn feddwl terfysglyd Edward Ifans fel y cerddai'n dawel wrth ochr ei frawd hyd y llwybr ger yr afon. O'r diwedd penderfynodd dorri'r newydd i'w gydymaith, ac wedi i John fynegi'i syndod, eisteddodd y ddau am ysbaid ar foncyff coeden.

"Hen hogan iawn ydi Megan, wsti, Edwart," sylwodd John ymhen ennyd. Mae hi wedi bod yn wan ac yn ffôl, wedi mwydro'i phen hefo'r hogyn 'na, go daria'i ben o, ond hen hogan iawn ydi hi, er hynny. Ia, 'nen' Tad."

Mae hi wedi dwyn gwarth arno' ni fel teulu. Ac mi fydd y gwarth hwnnw fel bloedd yn ein clustia' ni cyn hir."

Bydd, i'r rhai sy'n barod i wrando, Edwart. Diar annwl, mae hi wedi gorfod diodda' yn ystod y dyddia' dwytha' 'ma, ond ydi? "

"Diodda'?"

"Er pan ddaru hi wbod."

"Mi ddylai fod wedi ystyried hynny ymhell cyn hyn."

"Dylai, efalla', ond . . . Mi fûm i'n meddwl llawar am Lizzie Jane, hogan Eban bach, fachgan. Mi daflodd hi'i hun i'r afon 'ma, ond do? Ond ar Eban yr oedd y bai. 'Roedd o fel dyn gorffwyll ar ôl hynny, yn torri'i galon yn lân ac yn cerddad milltiroedd hyd lan yr afon 'ma yn y nos, ond . . . ond mi ddylai fod wedi ystyriad cyn hynny, on' ddylai? Mi fu o'n greulon o gas wrth yr hogan druan pan glywodd o