Tudalen:Chwalfa.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD IV

(1)

BU'R daith yn un bleserus i Idris a Dic Bugail a'u cymdeithion. Ac yn awr gadawsent swydd Henffordd a chyfoeth ei pherllannau a rhuthrent heibio i fryniau cromennog a dolydd ac afonydd Mynwy.

"Yr argian fawr, 'dydi Llŷn ne' Sir Fôn ddim ynddi hi, hogia'!" meddai Dic mewn syndod.

"'Synnwn i ddim nad oes 'na frithyll reit dda yn yr afon 'cw hiddiw ar ôl y glaw 'na ddoe," oedd barn Huw 'Sgotwr, a'i law, heb yn wybod iddo bron, yn cau am enwair ddychmygol. "Ac i fyny'r afon mae'r awel yn chwythu hefyd, Wil," meddai wrth Wil Sarah, a eisteddai gyferbyn ag ef. Ceiliog hwyaden ar y blaen, was, blacspeidar yn y canol, a choch fonddu fel dropar—diawch, mi faswn i'n 'u dal nhw fel pys o gysgod y goedan 'cw."

"Aros di nes doi di at y pylla' glo, 'r hen ddyn," sylwodd Wil yn ddoeth. "Mae 'na afon fawr yn fan'no, yn rhedag i lawr y Cwm, ond 'fyddi di ddim isio 'sgota ynddi hi."

"Pam?" gofynnodd Huw, a'i bwt o sigaret yn hongian i lawr ar ei wefus isaf drwchus. Yr oedd, yn ôl pob hanes ac yn enwedig ar ei dystiolaeth ef ei hun, yn bysgodwr medrus, ond mewn popeth arall un pur anneallus oedd Huw. Ateb Wil oedd anwybyddu'r cwestiwn a phoeri'n ddirmygus ond yn gywir rhwng coesau'r holwr.

Casnewydd, Caerdydd, newid trên, wedyn milltir ar filltir o lesni caeau a choed a pherthi. Newid trên eto, gwylio'r cwm yn culhau, syllu'n ofnus ar dai fel pe'n sefyll yn betrus ennyd cyn rhoi naid tros ddibyn, ar dramiau meddwon ar y ffordd uwchben, ar y tipiau glo'n ceisio newid ffurf yn ogystal â lliw y bryniau a'r llethrau, ar olwynion cyflym y peiriannau codi glo, ac ar yr afon dywyll, araf, seimlyd, islaw.

"Yr ydw' i'n gweld 'rwan, Wil," meddai Huw, a'i feddwl ryw ddeng milltir ar hugain yn ôl.

Gweld be'?"

"Pam na fedra' i ddim 'sgota yma."