Tudalen:Chwalfa.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Na, 'fydd dim angan siop filinar arnat ti yn dy gap i lawr yn fan'ma," atebodd Wil yn sych, gan gofio'n ddirmygus am yr amrywiol blu a wisgai Huw fel rheol ar ei gap.

"Y nefoedd fawr," ebe Dic, "beth petai'r doman fawr ddu acw yn dechra' llithrio i lawr, hogia'! Mi fasa'n claddu'r pentra' 'na i gyd."

Ai dynion allan ym mhob gorsaf, a dilynid hwy gan gynghorion a rhybuddion uchel o ddrysau a ffenestri'r trên. Daeth tro Idris a Dic Bugail a Huw 'Sgotwr a Wil Sarah ac eraill cyn hir, yng nghorsaf Pentref Gwaith. Yr oedd cefnder i Huw yn ei gyfarfod ef a Wil, ond safodd Idris a Dic yn siomedig ar y platfform ymhell ar ôl i'r trên wingo i fyny'r cwm: nid oedd golwg o Fob Tom.

"Tyd, mi awn ni i'w lodjin o, Dic. 'Falla' fod fy llythyr i wedi mynd ar goll yn y Post, wsti."

Wedi cyrraedd ffordd fawr y pentref, holodd Idris ryw ddyn ymh'le yr oedd Howel Street.

"Fe ddoa' i i'ch 'ebrwng chi," meddai yntau, gan droi ar ei sawdl a chydio'n ddioed yn y mwyaf o amrywiol barseli Dic Bugail. Dyn bychan ysgwâr, cyflym ei gam, ydoedd, a marciau gleision y glowr yn amlwg ar ei drwyn. Chwaraeai'r awel â'i fwstas gwlanog, cochlyd.

"'Dydan ni ddim isio'ch tynnu chi allan o'ch ffordd, cof-iwch," meddai Idris.

"'Wy'n byw ar bwys 'Owel Street, a 's dim neilltuol 'da fi i'w wneud. 'Wy' ar y Clwb ers wythnos." A nodiodd tua'r rhwymyn am ei law chwith. "O b'le yn y North ych chi'n dod?

"O Lechfaen," atebodd Idris.

"Bachan! 'Odi'r jawlad y blaclegs 'na'n dala i fynd 'nôl i'r gwaith?"

"Ydyn', mae arna' i ofn,"

"'Sa' ni'r coliars yn lico cael cwpwl ohonyn' nhw dan ddaear am sbel. Fe gela' nhw blaclegs!

Troesant i'r dde, yna i'r chwith, ac i'r dde wedyn.

"Ma 'i 'Owel Street. Pwy dŷ ych chi'n moyn?"

"B . . . be'." gofynnodd Dic.

"B'le ma' fa'n byw?"

"O. Nymbar nain."

Stryd hir, dlawd, oedd Howel Street, a llwch glo a llwch y ffordd dyllog, amrwd, yn cyflym dduo cerrig llwyd y tai.