Tudalen:Chwalfa.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychai pob tŷ, â'i lestraid o redyn yn ffenestr y parlwr ac â charreg ei ddrws a darn o'r palmant o'i blaen wedi'u sgwrio'n wyn, yr un ffunud â'i gilydd. Gadawodd y glowr hwy wrth y nawfed tŷ a churodd Idris ar y drws. Agorwyd ef gan glamp o ddyn du, ond â'u ddwylo'n wyn a'i wefusau'n goch iawn.

"Is Mr. Robert Thomas Roberts from Llechfaen lodging here?" gofynnodd Idris iddo.

Rhwygwyd dûwch yr wyneb gan wên fawr.

"Dowch i mewn, hogia", " meddai Bob Tom. "Y munud 'ma yr on i'n darllan dy lythyr di, Id. Mi gyrhaeddodd bora, ond yr on i yn y gwaith. Dim ots, mae 'na ddigon o fwyd i chi."

Mawr fu eu croeso yn nhŷ William Jenkins, a phrysurodd Myfanwy, ei wraig, i osod lle iddynt wrth y bwrdd.

"Dowch i'r cefn i chi gael 'molchi, hogia'," meddai Bob Tom. "'Rwyt ti'n edrach fel coliar yn barod, Dic."

"Wedi rhoi fy mhen allan drwy ffenast' y trên 'na am filltir-oedd, fachgan, imi gael gweld y cwm 'ma."

Yr oedd "cinio dydd Sul," yn iaith Llechfaen-tatws a chig a bresych ac yna bwdin a chwpanaid o de-yn eu haros ar y bwrdd, ac wedi'r daith hir o'r Gogledd, yr oeddynt yn falch ohono. Gŵr tawedog a breuddwydiol oedd William Jenkins, a'i lygaid llwydlas, caredig, yn gwenu'n wastadol. Cofia beidio â rhegi, Dic," oedd y cyngor a sibrydodd Bob Tom yng nghlust Dic Bugail yn y cefn. "Mae dyn y tŷ 'ma'n flaenor, wsti." Yr oedd dau lanc wrth y bwrdd hefyd-Ieuan, tuag un ar bymtheg oed, a Gwilym, tua deunaw. Tynnu ar ôl eu mam yr oeddynt hwy, yn dal a chringoch a siaradus fel hithau. Newydd ddychwelyd o'r lofa yr oeddynt hwythau, a theimlai Idris a Dic Bugail hi'n o ryfedd i eistedd wrth fwrdd hefo phedwar dyn du er eu gwaethaf, rhythent ar wynder eithriadol eu dannedd a'u llygaid.

Yr oedd y gegin yn hynod o lân, a'r darnau pres ar y silff-ben-tân a heyrn y grât a hyd yn oed goesau'r bwrdd a'r cad-eiriau'n pefrio'n yr heulwen a lifai drwy'r ffenestr. Cofiodd Idris mai digon tlawd a salw oedd gwedd y cartref tu allan, ond yr oedd y gegin hon fel pe'n her i holl lwch a rhuthr y cwm. Byrlymai cwestiynau tros wefusau Bob Tom yn ystod y pryd bwyd. Pwy a oedd yn ei hen fargen ef ac Idris yn y chwarel?