Tudalen:Chwalfa.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A oedd hwn-a-hwn, y snisyn bach iddo fo, yn Fradwr? Ai gwir fod gwraig hwn-a-hwn, ac yntau yma ym Mhentref Gwaith, wedi gyrru'i enw fo ac eraill i swyddfa'r chwarel? A'r stori fod hwn-a-hwn, ar ôl derbyn "punt-y-gynffon un bore, wedi'i gwadnu hi i'r Sowth y diwrnod wedyn?

Pan oedd y pryd drosodd, rhoes Mrs. Jenkins sach i lawr ar yr aelwyd, a chludodd gŵr y tŷ a Bob Tom y twbyn pren i mewn o'r cefn. Arllwysodd Mrs. Jenkins ddŵr poeth iddo o bair a fu'n berwi ar dân y gegin fach, a Gwilym ddŵr oer o bwced. Yna tynnodd William Jenkins ei grys oddi amdano a phenliniodd wrth y twbyn i ymolchi hanner uchaf ei gorff. Rhwbiodd Mrs. Jenkins ei gefn, a thra oedd ef yn sychu aeth Bob Tom drwy'r un oruchwyliaeth. Wedi diosg ei lodrau, camodd William Jenkins i'r twbyn i olchi ei hanner isaf, ac wedi i Fob Tom wneud yr un modd, cariodd y ddau fab y twbyn allan i'w wacáu. Erbyn eu bod hwy'n barod i ymol-chi, yr oedd y dŵr yn y pair yn ferwedig eto, a gwyliodd y ddau ddieithryn y ddefod mewn braw. Oherwydd âi Mrs. Jen-kins ymlaen â'i gwaith yn y gegin yn ystod yr holl berfformiad, a phan oedd Gwilym wrthi'n ymolchi o'i wasg i lawr, rhedodd gwraig y drws nesaf i mewn i ofyn am fenthyg tipyn o fwstard. Teimlai Idris a Dic Bugail yn bur anghysurus. A fyddai raid iddynt hwythau, yn noeth lymun, heb unman i ddianc iddo, wrando ar ryw wraig-drws-nesaf yn magu huodledd wrth sôn am y poen cefn a oedd ar " Ianto 'co neu am y frech wen a boenai " Wili ni?" Daeth ysfa tros Ddic Bugail i gydio yn ei barseli a'i gwadnu hi am ei fywyd yn ôl i'r Gogledd.

Edrychai William Jenkins a Bob Tom yn barchus iawn yn eu dillad glas tywyll pan ddaethant i lawr y grisiau. Safodd y ddau o flaen y drych, a hongiai uwch y silff-ben-tân, yn rhwbio'r llwch glo ymaith oddi ar ymylon eu llygaid. Daeth Mrs. Jenkins i mewn o'r gegin fach.

"'Roedd Bob a fi'n siarad lan llofft, Myfanwy," meddai'i gŵr wrthi," obeutu ffindo lodjins i'r ddou yma, 'Odych chi'n nabod rhywun all 'u cymryd nhw?"

"Wel, nagw', wir, William. Mae pob tŷ mor llawn, a dynion diarth yn cyrraedd bob dydd. 'Allwn ni shiffto i gymryd un yma os cysgith e' gyda Bob. A fe reda' i lan i dy'n whâr i weld os oes 'da hi le i'r un arall. Setlwch chi p'run sy i aros yma."

"Mi a' i i'r tŷ arall os oes 'na le yno," meddai Dic ar un-