Tudalen:Chwalfa.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

waith, gan wybod yr hoffai'r ddau hen bartner fod gyda'i gilydd.

Wel, tra bydd y wraig yn mynd lan i dŷ 'i whâr," meddai William Jenkins, "fe awn ni i weld yr Under-Manager. "Wy'n 'i 'nabod e'n dda. Mae e'n ddiacon 'da ni."

Gan fod galw mawr am lo a digon ohono, yr oedd y swydd-og yn falch o'u gweld ac o addo gwaith iddynt. Caent ddechrau y bore wedyn, meddai, a rhoes bapur iddynt i hawlio lamp ac yna i'w gyflwyno i'r fireman dan ddaear.

"Wel, 'na hwn'na wedi'i setlo," meddai William Jenkins ar y ffordd yn ôl i'r pentref. "A 'nawr gwell inni alw yn siop Hopkins yr iremonger i gael jac a bocs a rhaw i chi."

CC C

'Jac' ydi'r botel dun i gario te i'r gwaith," eglurodd Bob Tom." 'Does 'na ddim caban na berwi teciall i lawr dan ddaear, hogia'. A chyda llaw, Dic, 'chei di ddim smôc am naw awr a hannar."

"Tad annwl!" meddai Dic, mewn tôn a awgrymai fod y Farn gerllaw.

Cawsant lawer o hwyl, ar ôl dychwelyd i'r tŷ, yn casglu a gwisgo dillad ar gyfer y gwaith. Haerai Mrs. Jenkins fod y cotiau a fwriadai'r ddau eu dwyn i'r pwll yn llawer rhy dda i'w gwisgo dan ddaear. "Dillad diwetydd" y galwai hi hwy, a rhaid oedd chwilota am rai llai parchus. Daethpwyd o hyd i ddwy hen gôt, un ar ôl William Jenkins a'r llall ar ôl Gwilym, ac er nad oeddynt yn ffitio'n berffaith, caent fendith frwd pawb ond y gwisgwyr. Dygasent eu llodrau melfared a'u hesgidiau hoelion-mawr gyda hwy o'r Gogledd.

"Iorcs am dy goesa', belt am dy ganol, a chap am dy ben, a mi wnei rêl coliar, Id.," oedd barn Bob Tom. "'Oes gin' ti gap?'

Daria, nac oes, wir, fachgan, dim ond het galad."

"Hm, dipyn bach yn rhy steilish fydd honno, mae arna' i ofn. Beth amdanat ti, Dic? Het silc?"

"Na, mi drewis i hen gap i Ned, fy mrawd yng nghyfraith, yn fy mhac. Lwc, yntê?"

Torrodd Mrs. Jenkins ar yr hwyl. "Mae'n bryd i chi'ch dou 'i shapo hi i'r gwely," meddai. "Rhaid i chi gwnnu am hanner awr wedi pump 'fory. Ieuan, cer di lan i dŷ Bopa Jane gyda Mr. Jones. A chofiwch chi, peidiwch â chadw'n ddiarth," chwanegodd wrth Dic, "ne' 'fyddwn ni'n siŵr o ddigio."