Tudalen:Chwalfa.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Edrychai Dic braidd yn ddigalon wrth ddechrau casglu'i bethau.

"Peidiwch chi â becso 'nawr," meddai William Jenkins wrtho. "Mae Jane cystal â'm Misis i am edrych ar ôl dynion."

Wel, 'does gin' i ond diolch o galon i chi i gyd am.. "Am beth, bachan?"

Ar ben y pwll fore trannoeth, "na ofelwch pa beth a wis-goch" oedd yr adnod a ddeuai i feddwl Idris wrth weld rhai a'u gwisgoedd yn hongian arnynt ac eraill yn torri trwy'u dillad.

"Arhoswch amdana' i yn y fan yma wrth y lamp-rŵm pan ddowch chi i fyny am hannar awr wedi pedwar," meddai Bob Tom wrthynt pan oeddynt ar eu ffordd i'r caets. "Mi fydda' i yn o hwyr, gan fy mod i'n gweithio mor bell i mewn. Cofia di, Dic." Am ryw reswm, edrychai Bob Tom ar Dic fel petai'n hogyn anghyfrifol.

I'r caets â hwy a chydio'n dynn yn y bar haearn ar ei ochr. Ysgydwad i fyny, ac yna i lawr, i lawr, i lawr, mewn rhuthr merwinol o sŵn ac awyr. Neu, ai i fyny yr aent? Ni wyddai Idris na Dic, a chrynai'r ddau rhag y trychineb ofnadwy ar ben y daith pan chwilfriwid y cerbyd haearn fel blwch matsis. Ond landiodd y caets yn esmwyth, a chamodd y dynion allan i'r gwaelod llydan, a oedd yn olau gan drydan ond yn culhau ac yn tywyllu cyn hir. Fflachiadau lampau, clewt a chlonc y dramiau ar yr heyrn, bloeddiadau cwrtais "haliars" yn dymuno "Bore da "i'w ceffylau, dynion yn brysio ymaith tua thywyll-wch y ffâs-prin y gellid dychmygu, meddyliodd Idris, am le mwy annhebyg i uchder agored, iachus, ponc y chwarel. Rhoes "fireman" ef yng ngofal hen weithiwr ac arweiniodd hwnnw ef drwy ddirgel ffyrdd i'r ffâs cul lle gweithiai, yn ei gwrcwd, glamp o Wyddel o'r enw Jerry O'Driscoll. Gwing-odd Idris pan wasgwyd ei law gan y cawr, ac yn wylaidd ddigon yr ufuddhaodd i'w orchmynion i daro'i gôt a'i focs a'i jac ar ochr y talcen a'i lamp ar bostyn yn y ffâs ac i ddechrau Ilenwi'r dram â'r glo a ryddhâi ef o'r wythïen. Yr oedd gan Jerry wyneb a chlustiau enfawr ond llygaid bychain, culion, yn ciledrych fel petai angen cymorth gwydrau arnynt, a thrwyn fflat, gwasgaredig, a wastatawyd mewn llawer ysgarmes. Yn llanc, treuliasai ef flwyddyn neu ddwy fel bocsiwr hyd ffeiriau'r cwm, yn llorio pwy bynnag a oedd yn