Tudalen:Chwalfa.djvu/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddigon byrbwyll i fentro o fewn cyrraedd i'w ddyrnau. Ond ni pharhaodd ei ogoniant fel ymladdwr yn hir: yn lle ymarfer, a rhedeg, a cherdded y mynyddoedd, yn pwyso yn erbyn bar rhyw dafarn y ceid Jerry, a phan gollodd ei gefnogwr bum-punt ddwywaith yn yr un wythnos, gorfu i'r "anorchfygol " gorchfygedig ddychwelyd i'r pwll.

Cydiodd yn awr yn ei lamp, a oedd ar y llawr gerllaw, a rhuthrodd allan i'r hedin i weld yr haliar, gan adael Idris wrtho'i hun. Gwrandawodd y chwarelwr yn bryderus ar y tryblith o gynyrfiadau a wasgai pwysau'r mynydd o'r tywyll-wch, ac i'w glustiau gorastud ef, ymddangosai mân ffrwydriad-au'r nwy yn y glo fel taranau, a sŵn ambell bostyn yn gwichian fel sŵn coeden fawr yn cael ei hysigo mewn storm. Gwibiodd clamp o lygoden heibio i'w draed ac ymsythodd yntau'n sydyn nes taro'i ben yn erbyn y to isel. Yr oedd yn falch o weld Jerry a'i lamp yn dychwelyd.

"Come on, my boyo," meddai'r Gwyddel braidd yn sur. "'Tis not pickin' daisies we are. If it's after takin' a rest ye are, ye've picked the wrong job."

Troes Idris ati i lwytho'r ddram, a gwyliai Jerry ef o gornel ei lygad. Buan y sylweddolodd y Gwyddel nad seguryn oedd ei "butty" newydd, a phan oedd y ddram yn llawn swniai'i lais yn dynerach. "Ay, 'tis only one rest we black diggers ever get, and that's a long one in a hole in the ground. Sure, and it's a mad life we live, by the holy Mary, workin' in one hole in the ground and then sleepin' in another!"

Llanwodd y ddau dair dram y bore hwnnw, a Jerry'n clebran neu'n canu drwy'r amser. "The Minstrel Boy oedd y gân gan amlaf, ond bodlonai'r cawr ar ruo'r un pedair llinell drosodd a throsodd heb falio am gywirdeb geiriau nac alaw.

"The minstrel bhoy to the warr has gone,
In the ranks of de-h-heath ye'll foind him,
His faather's sw-hord he has girded on,
And his woild harp sl-h-hung behoind him."

A'i goesau a'i freichiau a'i gefn plygedig yn wayw i gyd, a'r llwch yn tagu'i wddf ac yn dyfrio'i lygaid, yr oedd y diwn gron yn mynd yn fwrn ar Idris. Arafach o hyd ei hynt â'r bocs cwrlo" o'r ffâs i'r ddram, a phan daflai ysbwriel i'r gob," pwysai'n amlach ar ei raw. Edrychai ar ei oriawr