Tudalen:Chwalfa.djvu/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llechfaen. Dyma i chi lyfr! Dyma i chi lyfr! Chwarelwr' ydach chi?"

"Naci, yn y Coleg."

"O, stiwdant, ai e? 'Tasach chi'n glarc ar y relwe ne' mewn Banc, mi faswn i'n codi deunaw arnoch chi. Ond swllt fydd o i chi."

"Ond . . . "

Nid amheuai Dan nad oedd doethineb W. Sulgwyn Jones yn werth swllt, ond yr oedd ar fin egluro mai deunaw a oedd ganddo ar ei elw ac na allai fforddio rhoi ceiniog at un achos dyngarol.

"O Lechfaen!" Gafaelodd rhyw haelioni sydyn yn yr hen frawd a gwyrodd ymlaen i sibrwd: "Dim gair wrth neb, cofiwch. Fe'i cewch o am naw ceiniog."

"Ond . . . "

"Dim siw na miw wrth neb." A gwthiodd y llyfr i ddwylo Dan.

Talodd Dan amdano gyda diolch ffwndrus, ac aeth allan o'r Farchnad gan ddyfalu beth a ddywedai'i ffrind Emrys wrtho pan âi i'w gartref amser te. Yr oedd y gyfrol yn un drom, drwchus, a gwisg o ledr diwinyddol amdani, a theimlai Dan yn euog, fel petai newydd ei dwyn ac yn ceisio'i chuddio oddi wrth bawb ar y stryd. Byddai'n well iddo fynd am dro i lan y môr wedi'r cwbl cyn amser te, os câi gyfle, a rhoi i'r trai lanw huodledd W. Sulgwyn Jones.

Brysiodd yn awr yn ôl i swyddfa'r " Gwyliwr."

"Ewch yn syth i fyny, 'machgan i," meddai'r dyn bach â chrwb ar ei gefn. "Y rŵm gynta' ar ben y grisia'. Mi welwch y gair GOLYGYDD ar y drws."

Aeth i fyny'r grisiau simsan, noeth, yn bryderus a churodd yn wylaidd ar y drws. Nid oedd ateb, a churodd eto, dipyn yn uwch. Gwrandawodd. Dôi sŵn chwyrnu uchel o rywle, a sylweddolodd mai yn yr ystafell y safai ef wrthi y canai'r utgorn. Curodd drachefn, gan fentro defnyddio'r "Pregeth-au" y tro hwn i geisio ennill sylw. Rhoes y chwyrnwr roch sydyn o brotest, ac yna bu tawelwch mawr. Llyncodd Dan ei boer a gofalodd fod ei dei yn syth cyn cael ei alw i mewn i'r ystafell. Ond nis gwahoddwyd i'r cysegr, a safodd yno'n hir ac ansicr gan syllu'n ofnus ar y gair GOLYGYDD o'i flaen. Pechasai'n enbyd: oni churasai'n haerllug ar y drws a hynny â Phregethau W. Sulgwyn Jones?