Cyfododd rhu y chwyrnwr yn uwch, ac agorodd Dan y drws yn ddistaw bach. Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho. Yr oedd y bwrdd a rhannau o'r llawr yn un llanastr o bapurau a llythyrau, ond yr hyn a dynnodd sylw Dan ar unwaith oedd y pâr o wadnau enfawr a'i hwynebai o ganol y bwrdd. Tu draw iddynt yr oedd coes-au hir mewn trowsus du, rhesog, hynod barchus, a thu draw i'r rheini wedyn, mewn hanner cylch o galedwch cadair swyddfa, weddill corff yr anfarwol Ap Menai. O dan ei wasgod ddu, agored, ymchwyddai ac ymostyngai crymder cawraidd, ac yr oedd uwch ei wddf digoler lawer gên. Gorweddai ei ben ar ei ysgwydd chwith, a gwaeddai ei dryblith o wallt claerwyn am grib. Gwnâi ei safn fawr agored iddo ymddangos fel un mewn dirfawr boen, ac edrychodd Dan yn dosturiol arno.
Beth a wnâi? Ai ei ysgwyd i'w ddeffro? Neu ai mynd ymaith ar flaenau'i draed a dychwelyd yn nes ymlaen? Neu ai aros yn amyneddgar, yng nghwmni W. Sulgwyn Jones? Eisteddodd wrth y bwrdd ac agorodd y llyfr.
Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen. Edrychwch arno! bloeddiai W. Sulgwyn Jones. "Syllwch arno! Craffwch arno! Wylwch, wylwch o'i blegid. Ie, wylwch ddagrau gwaed, wylwch eich llygaid allan tros yr adyn hwn, y truanaf o'r holl ddynion, yr hwn sydd yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith ym mhob man. Ac wylwch, wylwch, fy mhobl, tros ei wraig yn ei thlodi a'i galar a thros ei blant troednoeth, carpiog, yn nannedd y gwynt . . . .
Ond nid oedd gan yr Ap na gwraig na phlant. Edrych-odd, syllodd, craffodd Dan arno, ond nid wylodd o'i blegid. Yr oedd hwn, cofiodd, yn enwog am ei ddireidi a'i ffraeth-ineb, am ei gynganeddion cyflym ar lafar ac yn ei bapur, am ei areithiau ysgubol oddi ar lwyfanau eisteddfodol, am ei ysgrifau eofn, miniog, am ei wybodaeth o'r hen feirdd. Hwn-Azariah Richards wrth ei enw, ond "Ap Menai " ar dafod pawb oedd perchennog, golygydd, beirniad gwleidyddol,