Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"A ydyw fy ewythr yn dyfod yn fuan ynte?" gofynai Henry yn fywiog.

"Dylasai fod yma cyn hyn, fy mab, ond trefnodd Rhagluniaeth ddoeth yn wahanol. Yr wyf yn ofni na chewch ei weled byth, gan fod y llythyr hwn yn fy hysbysu ei fod yn gorwedd yn glaf mewn dinas bell, ac yn erfyn arnaf ddyfod ato yn ddioed, iddo fy ngweled unwaith yn rhagor, a chael fy ngwasanaeth i drefnu ei amgylchiadau."

"A ewch chwi yno, 'nhad?" gofynai Bernard yn bryderus.

"Af yn siwr, fy mab; a chan y bydd raid i mi deithio ymhell, ac o bosibl na ddeuaf adref cyn mis Hydref, fe gymer fy nghefnder Jacob Reimmer a'i wraig ofal am y tŷ yn fy absenoldeb. Ac os cymer marwolaeth eich ewythr le, y mae yn debyg y bydd genyf lawer o bethau i ofalu am danynt."

"Hwyrach y bydd iddo wella a dyfod yn ol gyda chwi."

"Yr wyf yn ofni na chymer hyny le, oblegyd dywed yn ei lythyr fod y meddyg yn anobeithiol o'i adferiad. Yn awr, fy mhlant, gwrandewch yn astud, tra y mynegaf genadwri eich ewythr atoch chwi oddiar ei wely angau. Fe ddywed, "Rhoddwch ddyrnaid o ŷd i'ch tri phlentyn, pan yn eu