Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gadael i ddyfod ataf, gyda gorchymyn fod i bob un ei ddefnyddio yn y dull a farno efe yn oreu; ac ar eich dychweliad gartref cewch chwithau benderfynu pa un o'r tri a wnaeth y defnydd goreu o hono, a hwnw a wobrwyir fel y bydd i mi drefnu. ”

* * * * * *

Dyma Hydref wedi d'od. Ac fel yr oedd Bernard fychan yn edrych trwy y ffenestr agored, prysurodd cerbyd at y drws, a daeth yr hen Gerard allan, yn dwyn blwch yn ei law.

"O dyna 'nhad, dyna 'nhad," gwaeddai y bachgen.

Yna y tri phlentyn a redent allan ac a'i cofleidient yn eu breichiau.

"O, 'nhad, yr ydym yn hoff o'ch gweled, wedi i chwi fod mor hir i ffwrdd."

"Yr ydwyf finau yn falch o'ch gweled chwithau, fy mhlant, ac oll yn ymdJangos mor iach," meddai yr hen wr, gan blygu i roddi cusan i bob un.

Yna daeth ei gefnder, Jacob Reimmer, a'i wraig ymlaen i'w groesawu; a gofynodd y tad ynghylch ymddygiad y plant yn ei absenoldeb,

"Yn wir, y maent wedi bod yn blant pur dda," atebai yntau.