Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oddiuchod y Daeth.

Yn oedd yn byw yn Ffrainc ar un adeg fachgen tlawd, yr hwn a adwaenid wrth yr enw Pedr fychan, Bachgen amddifad ydoedd, ac enillai ei damaid drwy gardota o dŷ i dŷ. Medrai ganu yn hynod felus, ac anfynych y danfonid ef oddiwrth ddrws neb yn waglaw. Bywyd diog ac annifyr ydoedd yr eiddo ef ar y goreu, ond nid oedd gan Pedr druan neb i ofalu am dano, ac nis gwyddai beth a allai wneud yn amgen. Arferai ddweud ar bob amgylchiad, "Oddiuchod y daeth." Ac yn awr yr wyf am adrodd i chwi paham y dywedai felly.

Pan oedd ei dad ar ei wely angau (os oedd gan- ddo wely hefyd, oblegyd yr oedd yn hynod o dlawd) fe ddywedodd wrth ei fab, "Pedr anwyl, yr wyf yn awr yn dy adael dy hunan, a byddi yn siwr o gyfarfod â llawer o drafferthion yn y byd. Ond os bydd i ti gofio ar bob amgylchiad fod pob peth a'th gyferfydd yn dyfod oddiuchod, bydd yn help mawr i ti ddyoddef y cwbl yn amyneddgar."

Pedr a ddeallodd ei feddwl—a mynych yr adroddai eiriau ei dad â'i leferydd, er mwyn eu hargraffu ar ei gôf. Ar dderbyniad pob rhodd dywedai, "Oddiuchod y daeth." Fel yr oedd yn cynyddu mewn