Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

maintioli, myfyriai yn fynych uwchben y geiriau. Yr oedd yn ddigon doeth i ganfod, yn gymaint a bod Duw yn llywodraethu y byd, fod genym y seiliau cryfaf i gredu am bob peth a gymer le yn ffordd ei ragluniaeth mai "Oddiuchod y daeth."

Profai y ffydd hon o eiddo Pedr yn fantais iddo yn fynych. Unwaith, pan oedd yn myned trwy y dref, chwythwyd llech oddiar dô gan awel ddisymwth o wynt, yr hon a syrthiodd ar ei ysgwydd, ac a'i tarawodd i lawr. Y geiriau cyntaf a ddywedodd oeddynt, "Oddiuchod y daeth. "Y rhai a safent gerllaw, heb wybod paham y dywedai felly, a dyblent ei fod wedi colli ei synwyrau, gan y gwyddent nas gallai y llech syrthio oddi isod. Y funud nesaf chwythwyd tô cyfan oddiar dŷ yn yr un heol, yr hwn a syrthiodd ar dri o ddynion, ac a'u lladdodd yn y fan. Y tebygolrwydd ydyw pe buasai Pedr wedi myned yn ei flaen yn ddirwystr, y buasai wedi cyrhaedd y fan ar yr adeg y syrthiodd y tô.

Dro arall, cyflogwyd ef gan wr bonheddig i gario llythyr drosto i ryw dref, gyda gorchymyn fod iddo wneud y brys mwyaf. Ar y ffordd, gwnaeth ymgais i neidio dros ffos lydan, ond methodd yn ei amcan—syrthiodd iddi, a bu agos a boddi. Collwyd y llythyr yn y llaid, a methwyd ei adferu. Pan