Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

adroddodd Pedr y dygwyddiad wrth y boneddwr, "ymgynddeiriogodd i'r fath raddau nes cymeryd chwip ato â'i yru o'r tŷ. Ond pan ar y rhiniog, dywedai Pedr, "Oddiuchod y daeth." Y dydd canlynol y boneddwr a ddanfonodd am dano. "Dowch yma," meddai, "dyma bum swllt i chwi am syrthio i'r ffos... Mae amgylchiadau wedi cyfnewid cymaint erbyn hyn, fel y buasai yn golled ddirfawr i mi pe buasai y llythyr wedi ei gymeryd yn ddyogel."

Byddai yn hawdd adrodd llawer yn rhagor yn nghylch Pedr. Gelwid ef Pedr fychan wedi tyfu o hono yn llanc. Anfonodd boneddwr Seisnig, yr hwn a ymwelodd â'r dref, am dano, gyda'r bwriad o roddi anrheg iddo. Pan aeth Pedr i'w wyddfod, gofynodd iddo, "Beth wnaeth i mi ddanfon am danoch, debygech chwi, Pedr?"

"Oddiuchod y daeth, syr," meddai Pedr,

Boddhawyd y boneddwr yn fawr yn yr atebiad. Wedi ystyried o hono am beth amser, dywedodd wrtho, "Yr ydych yn dweud y gwir, Pedr, canys yr wyf wedi penderfynu yn awr eich cymeryd chwi i fy ngwasanaeth, a gwneud darpariaeth ar eich cyfer. A ydych chwi yn foddlon i hyn ?"

"Oddiuchod y daeth, syr," atebai Pedr. "Mae