Hanes Celwydd.
“ | "Melys gan wr fara trwy ffalsedd; ond o'r diwedd ei enau a lenwir a graian." — Diar. xx. 17. | ” |
NID oedd Betsy ond geneth ieuanc. Un boreu, tra y safai o flaen y drych yn pinio rhosyn ar ei dwyfron, galwyd hi gan ei mam i gymeryd gofal y baban. Ufuddhaodd yn dra hwyrfrydig, gan fod ei bryd ar fyned i'r ardd i chwareu.
Dywedodd ei mam wrthi am eistedd yn ei chadair fechan, yna gosododd y plentyn yn ofalus ar ei glin, ac aeth allan o'r ystafell. Darfu i'r rhosyn coch ddenu sylw yr un bychan yn y funud, a chyn y gallai ei chwaer ddweud "Peidiwch," yr oedd wedi gafael ynddo a'i law, a'r rhosyn wedi ei lwyr ddyfetha. Cynhyrfodd Betsy gymaint nes y tarawodd ef yn lled arw. Ac yntau, fel y gwna pob plentyn, a waeddodd a'i holl egni. Ar hyn daeth y fam i mewn i wybod beth oedd wedi dygwydd i'r baban. Yna Betsy, er achub ei hun rhag cosb, a ddywedodd mai ei brawd Benjamin, yr hwn oedd yn chwareu yn yr ystafell, oedd wedi ei daraw a'i holl nerth. A Benjamin, druan, er tystio ei ddiniweidrwydd yn y modd mwyaf pendant, a dderbyniodd y gosb yr oedd Betsy yn ei haeddu mor gyfiawn.