Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cyn hir aeth Betsy i'r ysgol; ond teimlai yn eithaf annedwydd.

Y noson hono, wedi myned o honi i'r gwely i orphwys, methai yn glir a chysgu, gan feddwl am y pechod a gyflawnodd yn erbyn ei brawd, a mwy na hyny yn erbyn Duw. Penderfynodd yn ei meddwl y cyffesai y cyfan wrth ei mam boreu dranoeth. Y boreu a ddaeth, ond teimlai fel pe buasai ei gwddf mor llawn, fel nas gallai siarad. Methai a gwneud ei meddwl i fyny i gyffesu; a rhywfodd nid oedd y bai erbyn hyn yn ymddangos mor fawr a'r noson o'r blaen. "Nid oedd fawr o beth wedi'r cwbl," meddai ei chalon ynfyd. Fel yr oedd y naill ddiwrnod ar ol y liall yn myned heibio, teimlai Betsy fod y baich yn myned lai, lai; ac ond am y dygwyddiad galarusa ganlyn, gallasai, yn ngwyneb temtasiwn gyffelyb, fod wedi syrthio i'r un bai eilwaith. Un boreu, ar ei dychweliad o'r ysgol, cafodd fod ei brawd Benjamin wedi ei gymeryd yn glaf gan ddolur tost yn ei wddf. Clafychodd y boreu, parhaodd i waethygu, a'r noson ganlynol bu farw.

Druan oedd Betsy! yr oedd ar dori ei chalon gan ofid. Gwnaeth cyfeillion tirion eu goreu i'w chysuro. "Cofia," meddynt, "ei fod yn awr yn