Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dad yn ymddyddan âg ef yn rhywun mwy na dyn. Nid oedd yr hwn oedd yn bresenol, er yn anweledig, yn neb llai na'r Duw mawr, yr hwn a all glywed yn y tywyllwch yn gystal ag yn y goleuni.

Parhaodd Dafydd o hyn allan i ymddyddan â'r "Un yn y tywyllwch," nes gorphen ei waith ar y ddaear, a chyrhaedd o hono y lle dedwydd hwnw "lle ni raid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegyd y mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt."

Ond anwyl blentyn, a wyt TI weithiau yn siarad â'r "Dyn yn y tywyllwch?"Onid wyt ti yn meddwl ei fod yn werth siarad âg ef, ac yntau wedi marw ar y groes er mwyn i ti gael byw gydag ef dros byth? Hwyrach y dywedi, "Nis gwn pa fodd y mae i blentyn bach fel myfi gyfeillachu âg ef, yr hwn sydd mor sancfaidd ac mor fawr." Dyna reswm paham y dylit fyned at Grist ar unwaith, a dywedyd wrtho â'th holl galon, "Arglwydd, dysg imi weddio." Efe yw yr Athraw goreu, "Nac amheua er dim ei barodrwydd i'th ddysgu."