Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"'Beth a'ch dygodd i deimlo gwerth eich enaid cyntaf"

A dyma ei ateb:—"Ar ol i'm tad ddarllen penod o'r Beibl gyda fy mam, yn yr hwyr, arferai bob amser ddiffodd y ganwyll, ac yna siaradai a rhywun yn y tywyllwch. A chan na chlywais neb yn siarad ag ef yn ol, ac nad oedd neb yn y tŷ pan oleuwyd y ganwyll drachefn, bum yn hir heb ddeall â phwy yr oedd yn siarad. I mi yr oedd dirgelwch mawr yn hyn. Llawer gwaith y gorweddais yn fy ngwely yn ceisio meddwl â phwy y gallai fy nhad fod yn ymddyddan, yn enwedig gan ei fod yn ymddangos mor ddedwydd ar ol darfod. Gan y gwyddwn fod fy nhad yn ddyn hynod o dduwiol, meddyliais nad allai fod dim o'i le yn yr hyn yr oedd ef yn ei wneud; felly penderfynais y gwnawn inau siarad â'r dyn yn y tywyllwch cyn myned i'r gwely. Mynych y dywedais wrthyf fy hunan, "Pwy raid fod hwnw yr wyf yn siarad âg ef yn y tywyllwch, gan nad wyf yn gweled neb nac yn clywed un llais?" Ond yr unig ateb a ellais i roddi ar y pryd oedd,— "A'r dyn hwnw yr wyf fi yn siarad yr hwn y mae fy nhad yn ymddyddan âg ef pan yn diffodd y gan wyll.) "

Deallodd Dafydd yn fuan fod yr un yr oedd ei