Y Dyn yn y Tywyllwch.
MAB ydoedd Dafydd Evans, pregethwr Cymreig enwog, i rieni tlawd ond hynod am eu duwioldeb. Fel y cyffredin o deuluoedd Cymru, yr oeddynt yn hoff iawn o'r weddi deuluaidd. Y "ddyledswydd" a gyflawnid er pob rhwystrau. Pa mor hwyr bynag y dychwelai adref, a pha mor luddedig bynag ar ol llafur maith y dydd, yr oedd y weddi deuluaidd, fel yr allor Iuddewig gynt, "cynenid y tân bob amser." 'Doedd ryfedd fod y bwthyn tlawd hwn, lle yr oedd Duw yn trigo, yn dir sanctaidd a dedwydd iddynt.
Mae yn arferiad gan lawer o deuluoedd tylodion yn Nghymru, un ai oddiar ddybenion o gynildeb, neu ynte er llonyddwch i'r meddwl, i ddiffodd y ganwyll ar adeg y weddi hwyrol. Gwnaeth yr arferiad hwn argraff dwfn ar feddwl Dafydd pan yn ieuangc, a mynych y bu yn wrthrych ei fyfyrdod plentynaidd. Bendithiwyd yr amgylchiad gan Ysbryd Duw i'w ddwyn i roddi ei galon i'r Gwaredwr yn moreu ei oes.
Wedi i Dafydd Evans dyfu yn ddyn, daeth yn bregethwr enwog, a mynych y gwelwyd miloedd yn cyrchu i wrando arno. Gofynwyd unwaith iddo gan gyfaill,—