Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wyddost ti ddim—onid wyt fi yn yr un dosbarth ag ef?"

"Ydwyf, syr."

"Sut, ynte, yr wyt ti heb wybod pa fath ysgolhaig ydyw?"

"Meddwl yr oeddwn na ddylwn ddweud dim yn erbyn fy nghyd ysgolorion."

"Mae hyny yn bur wir, ni ddylit ar un cyfrif ddweud dim a fyddo yn anfantais i neb, heb ei fod yn wir, a bod genyt hefyd resymau digonol dros ei hysbysu. Ond wrth geisio gochelyd un drwg, rhaid i ti beidio cyflawni drwg arall, trwy ddweud anwiredd. Fe wn i nad yw Robert yn ysgolhaig da, er fod ganddo feddwl cryf. A wyddost ti yr achos nad yw yn well ysgolhaig?"

"O herwydd nad oes ganddo benderfyniad, syr. Os gwel ef y wers yn hir fe ddywed, 'Dalla i mo'i dysgu hi, ac ni cheisiaf i ddim ychwaith,' ac os daw at le anhawdd, fe'i rhydd o'r neilldu yn y fan."

"Y mae llew ar ei ffordd ef, ynte,"meddai Mr. Hall.

Gloywodd llygaid Justin ; yr oedd yn deall erbyn hyn paham y gofynodd ei dad yn nghylch Robert, ac hefyd y dywediad fod "llew ar y ffordd." Gwn yn awr beth oeddych yn feddwl wrth ddweud