wrthyf am beidio gadael i lew ddod ar fy ffordd :— wedi i mi ddechreu gorchwyl, rhaid peidio digaloni a'i roddi i fyny."
"Dyna fe."
"Beth os bydd y peth yn bechadurus?"
"Rhaid i ti beidio ei ddechreu."
"Beth os byddaf heb wybod hyny nes ar ol ei ddechreu?"
"Rho ef i fyny ar unwaith."
"Mae ambell i lew bychan yn dyfod ar dy ffordd di, Justin, weithiau, onid oes?" meddai ei fam, yr hon a ddaeth i mewn i'r parlwr mewn pryd i glywed y rhan olaf o'r ymddyddan.
"Wn i ddim, mam,"meddai Justin yn amheus.
"A orphenaist ti dy farcutan? "
"Naddo, mam."
"A orphenaist ti chwynu y gwely blodau yn yr ardd?"
"Naddo yn gwbl."
"A wyt ti wedi gorphen darllen dy lyfr newydd"
"Darllenais ran o hono."
"Beth a'th rwystrodd—ai'r llewod bychain?"
"Yr wyf yn meddwl mai ê,"meddai Justin, gan wenu, er ei fod yn teimlo y cerydd i'r byw.
Yr oedd Justin, fel llawer o fechgyn, yn dechreu