Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lluaws bethau nad oedd byth yn eu gorphen. Mae hyn yn arferiad tra niweidiol. Ni ddylid byth ei ffurfio, ac os ydym wedi ei ffurfio eisioes, dylid ei ddiwygio heb oedi. Mae rhai dynion na wiw ymddiried iddynt orphen dim, a hyny am ddarfod iddynt ffurfio yr arferiad, pan yn ieuanc, o ddechreu pethau, heb eu gorphen.

"Sut y gallaf fi gadw y llewod bychain draw?" meddai Justin.

"Trwy orphen pob peth a gymeri mewn llaw" meddai ei dad.

"Ond yr wyf yn blino ar rai pethau."

"Hidia mo hyny, gorphen hwynt er mwyn ffurfio yr arferiad. Os bydd i ti gadw at y rheol hon, ti fyddi yn fwy gofalus beth a ddechreui. Ti ddysgi foddwl mwy cyn gweithredu, a chynllunio gyda mwy o ddoethineb. Yr oeddwn i yn debyg iawn i ti'pan yn ieuanc. Gelwid fi yn fawr am ddechreu, ond anfynych y gorphenais ddim. Sylwodd fy nhad ar hyn, a phenderfynodd y gwnai fy ngorfodi, hyd y gallai, i orphen pob peth a gymerwn mewn llaw, ac felly cefais oruchafiaeth ar yr arferiad. Hoffwn dy weled ti, fy mab, yn diwygio yn hyn, heb i mi arfer unrhyw orfodaeth."

Penderfynodd Justin y gwnai ddylyn esiampl ei dad.