Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dymuniad George Fychan.

"FE hoffwn weled Jacob, mam,"
Medd George un dydd, tra'r oedd
Yn adrodd ei ddymuniad gwir
I'w anwyl fam ar g'oedd.

"Gofynwn iddo ef, fy mam,
Roi benthyg i myfi
Yr ysgol ar ba un y daeth
Angylion oddi fry.

Cawn felly ddringo fyny, mam,
I wel'd angylion glân,
Ar edyn fel goleuni'r wawr,
Yn 'hedeg uwch y fan.

Ac hwyrach y gwnant hwythau, mam,
Fy ngweled i'n syllu'n syn,
A dyfod at eich plentyn bach,
I'm cyfarch y pryd hyn.

Os gallwch chwi fy hebgor, mam,
A gaf fi eu canlyn hwy,
I fynu blith y nefol lu,
I aros yno mwy?