Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Bydd dirion o'th chwaer — hi gâr a'i holl galon,
Rhyw ddyfnder anhygoel yw serch pur ei bron ;
Mae fel cudd drysorau yn mynwes yr eigion,
Cyfuddau islaw i arwyneb y dôn:
Dy dirion ymddygiad ddug oriau o fwyniant,
Ac aml gysuron i'th ran rydd o hyd;
Serch bletha wych goron fydd iti yn ogoniant
Mwy gwerthfawr na bri a thrysorau y byd.

"Glynwch wrth eich Llwyn."

Yn oedd Mr. Morgan yn ŵr cyfoethog, ac yn ddyn da hefyd. Parchwyd ef gan ei gyd-drefwyr, anfon- asant ef i'r Senedd, ac nid yn aml yr ymgymerent a dim heb ofyn ei gyngor. Os byddai eisieu codi ysgoldy newydd, yr oedd yn rhaid cael siarad y peth drosodd gydag ef. Byddai gweddw John Jones yn gofyn iddo pa beth a blanai yn ei chae, a byddai Samuel Hughes bob amser yn ymgynghori âg ef cyn prynu ei anifeiliaid; a byddai Mrs. Lloyd yn gofyn ei gyngor o berthynas i ddygiad i fyny ei phlant. Pan y gofynwyd iddo pa fodd yr oedd mor