llwyddianus, dywedodd Mr. Morgan, "Dywedaf wrthych pa fodd y bu. Un diwrnod, pan yn fach- gen, yr oedd cwmni o fechgyn a genethod yn myned i'r wlad i gasglu mwyar duon. Yr oedd arnaf eisieu myned i'w canlyn, ond yn ofni na byddai i'm tad roddi ei gydsyniad. Pan y dywedais wrtho pa beth oedd yn myned yn mlaen, ac iddo yntau roddi ei gydsyniad yn rhwydd, prin y gallwn gynwys y llawenydd a deimlwn, a rhedais i'r gegin i gael ychydig ymborth gan fy mam, ac i ofyn am y fasged fawr. Wedi cael y fasged ar fy mraich, a chychwyn tua'r drws, galwyd arnaf yn ol gan fy nhad. Cymerodd afael yn fy llaw, a dywedodd mewn llais caredig neillduol, "Joseph, i ba beth yr ydych yn myn'd, ai i gasglu mwyar duon, ynte i chwareu?" "I gasglu mwyar duon, atebais. "Yna, y mae arnaf eisieu i chwi wneyd un peth, Joseph, a dyma ydyw — pan y cewch lwyn gweddol, na fydded i chwi ei adael i chwilio am un gwell. Bydd i'r bechgyn a'r genethod ereill redeg oddiamgylch, gan bigo ychydig yma ac ychydig acw, a cholli llawer o amser, a chael ond ychydig o fwyar duon. Os gwnewch fel hwy, bydd i chwi ddyfod gartref gyda basged wag. Os oes arnoch eisieu mwyar duon, glynwch wrth eich llwyn."
Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/74
Gwedd