Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aethym gyda'r cwmni, a chawsom hwyl anghyffredin, ond yr oedd yn union fel y dywedodd fy nhad. Nid cynt y caffai un lwyn da nag y galwai ar yr oll o'r cwmni, y rhai a adawent eu gwahanol leoedd, ac a redent at y trysor a ddarganfyddwyd. Heb foddloni am fwy na munud neu ddau yn yr un lle, crwydrasant dros yr holl wlad, a blinasant yn fawr, ac yn yr hwyr nid oedd ganddynt ond ychydig o fwyar duon. Yr oedd geiriau fy nhad yn swnio yn fy nghlustiau, a "glynais wrth fy llwyn." Ar ol gorphen âg un, cefais un arall, a gorphenais hwnw; yna aethym at un arall. Pan y daeth yr hwyr, yr oedd genyf lon'd fy masged o fwyar duon braf, mwy nag oedd gan y lleill oll gyda'u gilydd, ac nid oeddwn haner mor flinedig chwaith. Aethym adref yn ddedwydd. Ond ar ol myn'd i mewn, cefais fod fy nhad wedi ei daro yn glaf iawn. Edrychodd ar fy masged lawn o ffrwyth addfed, a dywedodd, "Da iawn, Joseph. Oni ddig- wyddodd yn union fel y dy wedais ? Glynwch wrth eich llwyn bob amser."

Bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, a bu gorfod i mi weithio fy ffordd yn y byd goreu gallwn. Suddodd geiriau fy nhad yn ddwfn i'm meddwl, ac nid anghofiais wersi cwmni y mwyar duon — darfu