Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i mi "lynu wrth fy llwyn." Ar ol i mi gael lle gweddol, a gwneyd yn o lew, ni ddarfu i mi ei adael, a threulio wythnosau neu fisoedd i chwilio am un ychydig yn well. Pan fyddai dynion ieuaingc ereill yn dweyd, "Deuwch gyda ni, a bydd i ni wneyd ein ffortiwn mewn ychydig wythnosau," ysgydwn fy mhen, a "glynwn wrth fy llwyn." Yn mhen ychydig amser darfu i fy meistradoedd gynyg fy nghymeryd i'r fasnach gyda hwynt. Arosais yn yr hen le hyd nes y bu farw fy holl gydbartneriaid, ac yna cefais bobpeth oedd arnaf ei eisieu. Darfu i fy ngwaith yn glynu wrth fy masnach, arwain dynion i ymddiried ynof, a rhoddodd hyny gymeriad da i mi. Yr wyf yn ddyledus am yr oll wyf ac sydd genyf i'r arwyddair — "GLYNWCH WRTH EICH LLWYN."

"Welith neb mohono i."

"Weli'th neb m'hono i," medda Tomos yn llon,
Achos 'roedd ei dad a'i fam wedi myned i'r fron,
Gan ei adael ei hun yn y ty;
"Welith neb m'hono i;" felly dringodd i ben stôl,
Ac edrychodd i'r cwpbwrdd i gael gweled y stôr,
Yr hon oedd weithred ry hŷ'.