Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Toedd y moch yn y dom
Yn fwy medrus na John,
I gasglu baw a llaid yn drwchus;
A chreda gŵr Ty-coed,
Pe cawsa' bedwar troed,
Y gwnaethai fochyn campus.

Mae y diog a'r drwg,
Er gwaethaf pob gwg,
Yn ddidrefn beth bynag a wisgont;
Ond plant da gofalus,
Y'nt lân a threfnus,
Pa mor dlawd bynag y byddont.

Bachgen nad ydoedd yn hoffi ei Gyflog.

AR un adeg aeth bachgenyn bychan tlawd i weithio i feistr drwg iawn, yr hwn a geisiai ganddo ddywedyd celwydd am nwyddau ei siop, ac felly i dwyllo a chamarwain y cwsmeriaid. "'Na wnaf, Syr," ebai y bachgen, "nis gallaf wneyd y fath beth. Bydd imi ymadael o'ch gwasanaeth cyn y gwnaf hyny." Ymadawodd o'r lle, ac ar ol myned adref at ei fam, dywedodd wrthi, "Yr wyf wedi gadael fy lle, mam." "Paham yr ymadewaist, fy mab?" ebai wrtho; "a oedd dy feistr yn anngharedig wrthyt?" "Nac oedd, mam; toedd dim eisieu neb caredicach nag ef." "Ai nid oeddit yn